Rali'n galw am fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru

ymgyrchwyr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd wedi dod i Flaenau Ffestiniog i'r rali

  • Cyhoeddwyd

Daeth cannoedd o bobl ynghyd mewn mewn rali ym Mlaenau Ffestiniog i alw ar y Llywodraeth i ymateb i'r argyfwng tai yng Nghymru.

Roedden nhw'n galw am Ddeddf Eiddo er mwyn sicrhau nad ydi pobl yn cael eu prisio o'r farchnad leol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn "cymryd camau radical" ar gyfer y "set gymhleth o faterion".

'Mae'n ddadl da ni angen ennill a'n goro' ennill'

Dywedodd Ceri Cunnington fod "argyfwng yn ein cymunedau ni o ran tai ond yn bwysicach cartrefi i bobl leol a phobl yn gyffredinol, yn enwedig pobl ifanc"

"Da ni'n dechre yma eto heddiw ond mae'n ddadl da ni angen ennill a'n goro' ennill".

Aeth ymlaen i ddweud fod "pawb yn gwybod bod pobl ifanc yn gadael eu cymunedau am bod nhw methu ffeindio tai, dim gwaith, ac wedyn mae'n cael effaith andwyol ar yr iaith".

"Dwi'n wirioneddol grediniol fod yr atebion yn ein cymunedau i'r argyfwng yma, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth wrando".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymgyrchwyr yn galw am Ddeddf Eiddo

Dywedodd yr ymgyrchydd, Ffred Ffransis, fod "'leni yn amser arbennig iawn achos mae'r Llywodraeth yn cyhoeddi papur gwyn a dau, ma' Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cyhoeddi adroddiad am ddyfodol cymunedau Cymraeg. Rŵan 'di'r cyfle i ni gael Deddf Eiddo i ni sicrhau fod pobl yn gallu cael cartref yn eu cymunedau".

Fe ddisgrifiodd y sefyllfa bresennol fel un "anhygoel o wael" gan ychwanegu fod yn "rhaid i ni gael Deddf Eiddo i sicrhau bod cartrefi i bobl yn eu cymunedau, neith dim byd llai y tro".

Dywedodd fod "yr ymgyrch wedi mynd ymlaen ers 1990. 'Da ni wedi colli cymuned ar ôl cymuned".

Wrth gyfeirio at y Llywodraeth, dywedodd ei bod "wedi gweithredu yn gadarn i gyfyngu ar ormod o dai haf ac o lety gwyliau, ond gwaethygu'r broblem ma' rheiny, nid rheiny yw sail y broblem".

Aeth ymlaen i ddweud mai "gwreiddyn y broblem yw'r farchnad agored, bod tai yn cael eu dosbarthu yn ôl arian nid yn ôl angen".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffred Ffransis o'r farn mai "gwreiddyn y broblem yw'r farchnad agored"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn credu "y dylai pawb gael mynediad at gartref pwrpasol, fforddiadwy i'w brynu neu i'w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio'n lleol."

"Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant i gyflawni hyn, fel rhan o becyn cydgysylltiedig o atebion i set gymhleth o faterion.

"Byddwn yn ymgynghori ar Bapur Gwyn yn ddiweddarach eleni ar gynigion ar gyfer darparu tai digonol, rhenti tecach, a dulliau newydd o wneud cartrefi'n fforddiadwy i'r rhai ar incwm lleol."