Rhybudd ambr am 'dros 100mm o law' i ogledd Cymru

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd ambr mewn grym am law trwm ddydd Mercher sy'n effeithio ar rannau o ogledd Cymru.

Siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd a Wrecsam sy'n cael eu heffeithio gan y rhybudd ambr, meddai'r Swyddfa Dywydd, dolen allanol.

Daw i rym am 12:00 ac mae'n parhau'n weithredol nes 12:00 ddydd Iau.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai tir uchel yng ngogledd Cymru weld "100-150mm neu fwy" o law yn disgyn.

Mae llifogydd, amodau gyrru anodd a phroblemau teithio yn debygol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i law trwm symud ar draws Cymru yn ystod dydd Mercher

Mae ail rybudd melyn am law hefyd mewn grym i ardal ehangach o Gymru hyd at 06:00 fore Iau.

Mae'r canolbarth a rhannau o'r de-ddwyrain wedi eu cynnwys yn y rhybudd hwn, gyda'r Swyddfa Dywydd yn dweud nad yw'n sicr ymhle y bydd y glaw trymaf.

Pynciau Cysylltiedig