TGAU: Tips a chanllawiau adolygu

  • Cyhoeddwyd

Dros y mis nesaf bydd miloedd o ddisgyblion ledled Cymru yn paratoi at sefyll eu arholiadau TGAU.

Mae gan BBC Bitesize lawer iawn o adnoddau i helpu gydag adolygu. Mae Cymru Fyw wedi casglu rhai o'r prif bynicau isod i helpu gyda'r cyfnod prysur hwn.

TGAU Cymraeg

Mae'r canllaw adolygu hwn ar gyfer y cwrs TGAU Cymraeg wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'r arholiad Iaith sy'n canolbwyntio ar sgiliau llafar, ysgrifennu a gramadeg.

O fewn yr adrannau hyn, ceir unedau sy'n mynd i'r afael ag elfennau unigol fydd yn rhan o'r arholiad. Er enghraifft, mae'r adran Ysgrifennu yn cynnwys chwe chanllaw sy'n canolbwyntio ar ffurf penodol o ysgrifennu gan gynnwys disgrifio, esbonio, a naratif.

Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys fideos difyr yn ogystal â phrawf byr amlddewis yn seiliedig ar gynnwys y canllaw.

TGAU Hanes

Ffynhonnell y llun, bbc bitesize

Dyma ganllaw hynod gynhwysfawr sy'n cwmpasu'r cwrs TGAU Hanes. Mae'n cynnig canllawiau adolygu ar gyfer wyth o unedau'r cwrs.

Yn eu plith mae:

  • Oes Elisabeth, 1558-1603

  • Dirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

  • UDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

  • Yr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

  • Newidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Mae'r unedau hyn wedi'u torri lawr i adrannau llai sy'n ei gwneud hi'n haws adolygu un agwedd o'r cwrs ar y tro. Yn ambell ganllaw ceir fideo neu animeiddiad i atgyfnerthu'r dysgu, yn ogystal â phrawf amlddewis ar y diwedd.

TGAU Gwyddoniaeth

Disgrifiad,

Mae Ada, yr ap gwyddoniaeth, yn egluro cylchred bywyd seren.

Ar wefan BBC Bitesize fe welwch bod canllawiau ar gyfer y tri phwnc Gwyddoniaeth: TGAU Bioleg, TGAU Cemeg a TGAU Ffiseg.

Mae pob un o'r rhai wedi'u rhannu'n unedau sy'n cyd-fynd â maes llafur CBAC. Ynddynt ceir nodiadau adolygu eglur, diagramau a graffeg, fideos ac animeiddiadau i atgyfnerthu'r dysgu ac fel gyda phob un o ganllawiau TGAU BBC Bitesize, prawf amlddewis i wirio dealltwriaeth.

TGAU Llenyddiaeth Gymraeg

Mae'r canllawiau TGAU Llenyddiaeth Gymraeg. yn canolbwyntio ar y farddoniaeth a'r nofelau ar faes llafur CBAC.

Ceir canllaw unigol i bob nofel y gellir dewis ei hastudio ar y cwrs gan gynnwys Llyfr Glas Nebo, Llinyn Trôns a Diffordd y Sêr.

Disgrifiad,

Mae’r awdur, Manon Steffan Ros yn trafod prif gymeriadau’r nofel, Llyfr Glas Nebo.

Mae 'na hefyd ganllaw i ddeg o gerddi, sut i gymharu cerddi, dysgu'r nodweddion arddull, y mesurau caeth a'r mesurau rhydd.

TGAU Mathemateg Rhifedd

Disgrifiad,

Ydy Dewi yn deall faint bydd e'n talu mewn llôg ar fenthyciad arian gan Teri Twyllo?

Mae TGAU Mathemateg Rhifedd yn gymhwyster penodol i Gymru ers 2015. Yn y canllawiau lliwgar hyn, y ditectif Al Gebra sy'n arwain yr adolygu drwy unedau'n ymwneud ag algebra, rhif a mesur a geometreg.

Wedi'i rannu'n dameidiau hawdd eu trefnu, mae'r canllawiau hyn yn gwneud y gwaith o drefnu'r adolygu yn haws.

Meddwl Ar Waith: tips adolygu

Yn ogystal â'r canllawiau adolygu i bynciau unigol mae BBC Bitesize yn cynnig cymorth gydag adolygu yn Meddwl Ar Waith.

Yn yr adran hon o'r wefan mae llwyth o gynghorion i'w cael am sut i drefnu ac amserlennu adolygu, tips am sut i gofio pethau, lle i ddechrau arni a mwy.

Disgrifiad,

Meddwl ar Waith: Yr arbenigwr cof, Dr Rob Hughes yn rhannu syniadau am sut i gofio pethau

Fel rhan o Meddwl Ar Waith mae darnau sy'n cynnig cyngor i rieni am sut i gefnogi eu plentyn a sut i ddelio â diwrnod canlyniadau.

Er mwyn gweld y dudalen Meddwl Ar Waith yn Gymraeg, sgroliwch i'r gwaelod i'r ddewislen iaith.

Am holl adnoddau TGAU BBC Bitesize cliciwch fan hyn.

Pynciau Cysylltiedig