Torri gwasanaethau trên 'yn rhoi cyrffyw ar bobl Gwynedd'

Gorsaf Porthmadog
Disgrifiad o’r llun,

Byddai llai o drenau yn gwasanaethu gorsafoedd fel Porthmadog o dan y cynlluniau

  • Cyhoeddwyd

Bydd cynlluniau i dorri nifer y trenau sy'n gwasanaethu rhannau o ogledd a chanolbarth Cymru yn "rhoi cyrffyw ar bobl" yr ardal.

Byddai'r newidiadau arfaethedig i Reilffordd Arfordir y Cambrian yn cynnwys dileu dau wasanaeth dyddiol rhwng Machynlleth a Phwllheli, a dau arall rhwng Machynlleth a'r Bermo.

O dan yr amserlen newydd byddai trenau hefyd yn dod i ben yn gynharach gyda'r nos.

Mae Trafnidiaeth Cymru, sy'n rhedeg y trenau, yn beio'r penderfyniad ar "newid mewn patrymau teithio a gofynion rheilffyrdd ar ôl Covid".

Ond yn ôl cynghorwyr sir Gwynedd, sydd wedi pleidleisio'n unfrydol i wrthwynebu'r toriadau, mae llawer yn dibynnu arnynt i gyrraedd eu gwaith ac hanfodion eraill.

Dywedodd un aelod bod y trenau yn "angenrheidiol i'r economi wledig", bod "lleihau gwasanaethau yn gwneud dim i annog defnydd ohonynt" a bod sawl cymuned eisoes wedi dioddef toriadau i'w gwasanaethau bws.

Ffynhonnell y llun, RAIB
Disgrifiad o’r llun,

Byddai gwasanaethau rhwng Machynlleth a'r Bermo, a Machynlleth a Phwllheli yn cael eu torri o dan yr amserlenni newydd ar Reilffordd y Cambrian

Mae Rheilffordd y Cambrian yn dilyn arfordir gorllewinol Cymru o Bwllheli hyd at Aberdyfi, cyn troi am Fachynlleth ac ymlaen trwy Bowys i'r Amwythig.

Mae hefyd yn cysylltu â thref Aberystwyth.

Ond byddai'r amserlen newydd yn gwneud i ffwrdd gyda'r gwasanaethau 05:07 Machynlleth - Y Bermo, a 06:45 Y Bermo - Machynlleth.

Byddai'r gwasanaethau 08:25 Machynlleth - Pwllheli a 11:37 Pwllheli - Machynlleth, hefyd yn dod i ben.

Yn ogystal byddai'r trenau ola'r dydd, sef 21:47 Machynlleth - Pwllheli a 20:26 Pwllheli - Machynlleth, yn teithio tua awr yn gynt ac yn gweithredu rhwng misoedd Mawrth a Rhagfyr yn unig.

Dywed Trafnidiaeth Cymru fod bwriad i ddarparu mwy o gerbydau ar rai o'r gwasanaethau sy'n rhedeg rhwng Birmingham a Phwllheli yn ystod misoedd yr haf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Gwynfor Owen bod y trenau yn "angenrheidiol i'r economi wledig"

Ond mae pryderon dros y newiadiadau eisoes wedi eu codi gan ran o gynghorau tref a chymuned ardaloedd Dwyfor, Meirionnydd a gogledd Powys.

Yn y Senedd fis diwethaf fe ddywedodd AS Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, "fod ardal wledig Dwyfor Meirionnydd yn prysur ddod yn ddiffeithwch o ran cael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy".

Yn ôl y Cynghorydd Gwynfor Owen, cynrychiolydd ardal Harlech a Llanbedr, mae'r gwasanaethau o "bwys aruthrol" i sawl un yng Nghymru wledig.

Wrth gyflwyno cynnig o flaen cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd brynhawn Iau, disgrifiodd cefn gwlad fel "gwaedu yn ara' deg allan o fodolaeth", gan ychwanegu: "Dwi wedi blino clywed fod yn rhaid i etholwyr roi gorau i'w ceir a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

"Hawdd dweud hynny os yn byw ar goridor yr M4 neu A55 ond mae'n amhosib os yn byw ar arfordir orllewinol Gwynedd."

Gan ddisgrifio dod â'r gwasanaethau i ben yn gynharach yn y nos fel "rhoi cyrffyw" ar bobl, dywedodd bod y trenau yn "angenrheidiol i'r economi wledig".

Roedd cefnogaeth i'r cynnig gan bob plaid yn y siambr gyda'r cynnig yn cael ei dderbyn yn unfrydol.

'Dileu gwasanaethau lle mae’r galw’n isel iawn'

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru maen nhw'n rhedeg 87 o wasanaethau ychwanegol o’i gymharu â phan gymron nhw'r awenau yn 2018 ac ychwanegu mwy o gerbydau at rai o’r gwasanaethau prysuraf.

Ond mae bwriad hefyd i "ddileu nifer fach o wasanaethau lle mae’r galw’n isel iawn gan deithwyr ar hyn o bryd".

Wrth gynnal ymgynghoriad ar yr amserlen newydd, dolen allanol, byddai newidiadau eraill yn cynnwys lleihau gwasanaethau Calon Cymru o bump i bedwar y dydd o fis Rhagfyr 2024, a dileu’r ddau wasanaeth hwyr i Lanymddyfri a Llandrindod.

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru: “Mae patrymau teithio a’r galw ar ein rhwydwaith wedi newid ar ôl y pandemig felly rydym wedi cwblhau adolygiad o’n gwasanaethau rheilffordd.

“Mae’n hanfodol ein bod yn darparu gwasanaeth rheilffordd sy’n gwasanaethu patrymau newydd o alw gan gwsmeriaid a bydd ein hamserlenni arfaethedig yn helpu i gyflawni hyn, tra’n cydbwyso'n ofalus y gwerth am arian i’r trethdalwr.

"Rydym yn cryfhau llwybrau poblogaidd, gan ddarparu mwy o wydnwch ar draws ein rhwydwaith yn ystod y gaeaf ac rydym wedi gorfod gohirio rhai ymrwymiadau blaenorol.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad nid er elw a bydd yr holl refeniw a'i cynhyrchir gan ein gwasanaethau yn cael ei ail-fuddsoddi yn y rhwydwaith.”