Ysgolion ar gau yn Y Fenni wedi i bibell ddŵr fyrstio

  • Cyhoeddwyd
Dŵr wedi byrstio yn Y FenniFfynhonnell y llun, Vlogging a Life
Disgrifiad o’r llun,

Roedd peirianwyr Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio dros nos i drwsio difrod i'r bibell

Mae sawl ysgol yn Y Fenni ar gau a channoedd o adeiladau heb gyflenwadau dŵr wedi i brif bibell ddŵr fyrstio yn y dref ddydd Llun.

Dywed Dŵr Cymru eu bod "wedi gweithio dros nos" i drwsio'r bibell ger Heol Aberhonddu yn dilyn "difrod gan drydydd parti".

Fe effeithiodd y sefyllfa ar dros 4,000 o gwsmeriaid yn y lle cyntaf, ond rhyw 1,600 oedd yn dal heb gyflenwadau erbyn ychydig cyn 09:00 ddydd Mawrth.

Cadarnhaodd y cwmni amser cinio ddydd Mawrth bod y bibell wedi ei thrwsio, ac y dylai cyflenwad pawb fod wedi'i adfer yn ystod y prynhawn.

'Tu hwnt i'n rheolaeth'

Mewn neges ben bore i'r cyhoedd, dywed Ysgol Gymraeg Y Fenni bod dim cyflenwad dŵr i'r safle, sy'n "effeithio ar yr holl wasanaethau hylendid".

Gan ymddiheuro am y diffyg rhybudd, ychwanegodd y neges: "Mae'r mater y tu hwnt i'n rheolaeth, byddwn yn rhoi diweddariad i chi i gyd nes ymlaen heddiw."

Mae dau safle Ysgol 3-19 Brenin Harri'r VIII yn Lôn Llwynu a Hen Heol Henffordd hefyd ar gau, ynghyd ag Ysgol Gynradd Gatholig y Forwyn a Sant Mihangel.

Pynciau Cysylltiedig