Ceidwadwyr 'yn ymwybodol' o gŵyn yn erbyn aelod Senedd

Laura Anne Jones ASFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Bu Laura Anne Jones yn AS Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru ers 2020

  • Cyhoeddwyd

Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymwybodol o gwynion am un o'u gwleidyddion yn y Senedd er iddynt ddweud nad oedd cwyn wedi'i gwneud, yn ôl ffynhonnell yn y blaid.

Mae Laura Anne Jones dan ymchwiliad gan yr heddlu a'r Comisiynydd Safonau yn dilyn honiadau o wneud ceisiadau treuliau ffug.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod pryderon am honiadau o fwlio yn swyddfa Ms Jones wedi cael eu codi gydag uwch aelod o staff y Ceidwadwyr cyn i'r Comisiynydd Safonau gael gwybod.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig nad oes "unrhyw gŵyn swyddogol wedi dod i law Grŵp Ceidwadwyr Cymru, Arweinydd y Grŵp na'r Blaid Geidwadol".

Mae Ms Jones, llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, wedi dweud y bydd hi'n cydweithio gydag "unrhyw ymchwiliad".

'Pryder' am sylwadau arweinydd

Mae nifer o Geidwadwyr wedi mynegi pryder am sylwadau Andrew RT Davies, gydag un yn dweud eu bod yn "anghyfforddus" gyda'r ffordd y mae'r blaid wedi delio â'r gŵyn yn fewnol.

Ar BBC Politics Wales ddydd Sul, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Mr RT Davies, nad oedd y grŵp "erioed wedi derbyn y gŵyn honno" ac nad oedd cwyn wedi dod ato "yn uniongyrchol".

Daeth yr honiadau am dreuliau ffug i'r amlwg fel rhan o gŵyn i'r Comisiynydd Safonau, Douglas Bain gan gyn-aelod o staff Laura Anne Jones - cwyn oedd yn ymwneud â chyhuddiadau o fwlio honedig yn erbyn aelod arall o staff swyddfa.

Mae BBC Cymru yn deall bod Mr Bain wedi cyfeirio'r mater at yr heddlu ar ôl i negeseuon ddod i'r amlwg oedd yn honni bod Ms Jones wedi gofyn i gyn-weithiwr hawlio treuliau ar ei rhan am deithiau nad oedd wedi digwydd.

Deallir bod ymchwiliad Mr Bain wedi ei ohirio tra bod yr heddlu'n ymchwilio.

Mae'r heddlu wedi siarad ag o leiaf un aelod o staff Ceidwadol fel rhan o'u hymchwiliad.

Dywedodd ffynhonnell o fewn y blaid Geidwadol bod yr achwynydd yn yr achos wedi codi pryderon am fwlio gydag uwch aelod o staff y Ceidwadwyr cyn cysylltu â'r Comisiynydd Safonau.

Dywedodd y ffynhonnell fod yr aelod o staff wedi "diystyru" y cwynion bwlio gwreiddiol.

Yn ôl ffynhonnell blaenllaw arall o fewn y blaid mae ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal ar ôl i'r mater gael ei godi'n uniongyrchol â Mr Davies yn ddiweddar.

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd Ms Jones: "Byddaf yn cydweithio'n llawn ag unrhyw ymchwiliad i'm gweithgareddau fel Aelod o'r Senedd, fel y byddai disgwyl i unrhyw aelod.

"Mae'r broses safonau yn gyfrinachol, a bydden i'n disgwyl i eraill beidio gwneud sylwadau parhaus amdani, rhag peri risg i hygrededd y broses."

'Proses gyfrinachol'

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn gwybodaeth gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd a'i fod yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd "nad oes unrhyw gŵyn swyddogol wedi dod i law Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Arweinydd y Grŵp na'r Blaid Geidwadol.

"Cyfrifoldeb aelodau unigol o'r Senedd yw eu staff, sy'n cael eu cefnogi gan Gymorth Busnes i Aelodau'r Senedd, gyda'r llawlyfr staff yn gweithredu fel canllaw.

"Mae'r achwynydd wedi dewis gwneud cwyn i'r Comisiynydd Safonau. Mae hon yn broses gyfrinachol ac ni fyddwn yn gwneud sylw pellach hyd nes bod y broses honno wedi dod i ben."