Actores yn rhoi’r gorau i waith cynghorydd ar ôl bygythiad
- Cyhoeddwyd
Mae actores a chyflwynwraig wedi dweud iddi benderfynu rhoi'r gorau i fod yn gynghorydd sir ar ôl cael ei bygwth.
Roedd Shelley Rees yn wyneb cyfarwydd ar Pobol y Cwm am flynyddoedd cyn cael ei hethol i gynrychioli ward Pentre ar Gyngor Rhondda Cynon Taf yn 2012.
Cafodd ei hailethol yn 2017 ond ar ddechrau 2020 fe wnaeth bygythiad gan ddyn lleol ysgwyd ei theulu a phenderfynodd beidio sefyll yn etholiadau lleol 2022.
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru, eglurodd sut aeth y dyn i gartref ei rhieni tra'r oedd hi yn y gwaith.
"'Na'th fy nhad ateb y drws ac roedd Mam yn gallu clywed rhywbeth yn mynd mla'n," meddai.
"Roedd ffrind i fi yn cerdded ei chi ac yn gweld yr holl beth a ffoniodd hi fi a gweud: 'Lle wyt ti? Ma' rwbeth yn mynd mla'n.
"Ffonies i nhw yn syth a des i adre o'r gwaith yn syth a 'wedodd nhw 'na, paid â dod fan hyn, cer i dy dŷ dy hunan'.
"Roedd y dyn yma wedi noco'r drws - o'n i’n gwybod pwy oedd e, o'n i prin yn ei nabod e - ond am ryw reswm wedi penderfynu bod e yn mynd i dŷ Mam a Dad a fy mygwth i. O'n i mor ypset."
"O'n i wastad yn gwybod tase rhywbeth byth yn digwydd le dwi ddim yn teimlo'n saff neu bod fy nheulu ddim yn teimlo'n saff, mae'n rhaid i fi roi'r gorau iddi," meddai.
"Ond o'n i byth yn meddwl bydde fe'n digwydd yn fy mhentre' fy hunan.
"Pan fod rhywun wedi bygwth dy ddiogelwch di a dy deulu, oedd ishe roi stop arno fe… ro’n i’n drist mae’n rhaid i fi fod yn onest."
Fe gafodd Ms Rees - a ddechreuodd ar Pobol y Cwm yn 1993 a sydd wedi actio mewn rhaglenni fel Keeping Faith, Casualty, 35 Diwrnod ac Emmerdale - ei magu yn Nhon Pentre ac mae hi'n dal i fyw yno.
Dywedodd bod yr hyn ddigwyddodd wedi effeithio'n fawr arni gan ei bod wedi parhau i fyw yn ei chynefin dros yr holl flynyddoedd am ei bod yn teimlo'n ddiogel yno a neb yn meddwl amdani fel person enwog.
Doedd hi ddim yn gwybod beth oedd y rheswm tu ôl i'r bygythiad, meddai Ms Rees, sydd bellach hefyd yn cyflwyno ar Radio Cymru.
'Fy merch ofn mynd mas o'r tŷ'
Mae bygythiadau i wleidyddion, a merched yn benodol wedi bod yn bwnc llosg dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phryder am gynnydd mewn sylwadau sarhaus ar-lein ac ymosodiadau.
"Fel cynghorydd ti ar y front line - does dim staff, does dim swyddfa, ti mas 'na - a dyna beth yw pwrpas bod yn gynghorydd," meddai Ms Rees.
"O’n i’n gwybod hynny ond do’n i byth yn meddwl bydde hynny yn digwydd i fi.
"Fi ddim yn gwybod beth yw’r ateb achos ar yr un llaw ro’n i’n teimlo pam bod fi’n rhoi gorau i hyn, dyle bod fi’n aros 'ma', ond o’n i methu oherwydd fy nheulu.
"Gafon ni gyfnod le oedd Lowri [ei merch] ofn mynd mas o’r tŷ. Ro’n i’n checio i weld os oedd y dyn yma o gwmpas achos bod e’n lleol.
"Roedd yr heddlu wedi dweud wrtho fe i gadw draw, ond o’n i’n meddwl 'mae fy nheulu i wedi cefnogi popeth fi erioed wedi neud'… Jon [ei gŵr] yn enwedig… ond pam bod Jon yn dweud 'na' i rywbeth, fi’n gwybod mae eisie fi feddwl fan hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2023