Cyfyngu cyflymder i wella ansawdd aer Cymru

  • Cyhoeddwyd
ansawdd aerFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 50 mya ar rannau mwyaf llygredig bump o ffyrdd prysuraf Cymru fel rhan o'i chynlluniau i wella ansawdd aer yng Nghymru.

Bydd proses ymgynghori yn dechrau ddydd Mercher ar gynlluniau i sefydlu Parthau Aer Glân - ardaloedd dynodedig lle bydd camau i leihau effaith llygredd yn yr awyr ar y cyhoedd a'r amgylchedd.

Daw'r cyhoeddiad wedi i'r Uchel Lys roi tan ddiwedd Gorffennaf eleni i weinidogion Cymru gyhoeddi eu cynlluniau terfynol i daclo llygredd aer, yn unol â thargedau'r UE.

Wrth gyhoeddi pecyn o fesurau a chronfa gwerth £20m, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, bod sicrhau aer glân yng Nghymru yn "un o'i blaenoriaethau allweddol".

Er mwyn mynd i'r afael â lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid (NO2), mae'n fwriad cyflwyno cyfyngiadau cyflymder dros dro o 50 mya yn ystod y ddau fis nesaf mewn rhannau byr o'r ffyrdd canlynol:

  • A494 yng Nglannau Dyfrdwy

  • A483 yn Wrecsam

  • M4 rhwng Cyffyrdd 41 a 42 (Port Talbot)

  • M4 rhwng Cyffyrdd 25 a 26 (Casnewydd)

  • A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd.

Mae cynigion yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys atal y cerbydau mwyaf llygredig rhag gyrru o fewn Parthau Aer Glân, neu eu cyfyngu o fewn yr ardaloedd dan sylw.

Y gobaith yw y byddai'r camau'n helpu lleihau tagfeydd ac arwain at 18% yn llai o allyriadau yn ardal y parthau.

Disgrifiad o’r llun,

Hannah Blythyn: 'Mae sicrhau aer glân yn un o fy mlaenoriaethau allweddol'

Bydd y Gronfa Ansawdd Aer ar gael tan 2021 i helpu awdurdodau lleol wella ansawdd aer yn eu hardaloedd.

Hefyd, fe fydd gwefan newydd yn galluogi'r cyhoedd i weld y wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cael ei ddiweddaru'n fyw, am lefelau llygredd aer yn eu hardaloedd, ac adnoddau ar gyfer ysgolion,

Dywedodd Ms Blythyn ei bod yn "hyderus" y bydd y mesurau newydd "yn cefnogi'r newidiadau y mae angen i ni eu gwneud er mwyn sicrhau aer glanach".

"Rwy' wedi ymrwymo i gymryd camau i fynd i'r afael â llygredd aer yng Nghymru er mwyn creu dyfodol iach i'n cymunedau ac er mwyn gwarchod ein hamgylchedd naturiol."

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fod yn araf i weithredu, ac yn ôl Plaid Cymru, mae'n "gywilyddus" bod angen pwysau o gyfeiriad yr Uchel Lys cyn cymryd camau perthnasol.

'Amddiffyn iechyd pobl Cymru'

Dywedodd Andrea Lee, llefarydd ar ran ClientEarth: "Rydym ni'n falch o glywed fod y gweinidog yn cydnabod fod hyn yn fwy na dyletswydd gyfreithiol ond yn ffordd o amddiffyn iechyd pobl Cymru rhag lefelau niweidiol o lygredd aer".

Yn ôl Nicholas Lyes pennaeth polisïau ffyrdd RAC, maen nhw hefyd yn cefnogi'r mesur o ran egwyddor, ond yn cwestiynu ai cyfyngu cyflymder yw'r ffordd fwyaf effeithiol o leihau lefelau nitrogen deuocsid.

Mae Edmund King, llywydd AA yn credu fod llygredd aer yn fater "hynod o bwysig" ond bod angen targedu'r cerbydau mwyaf niweidiol yn hytrach na "chosbi" pob gyrrwr disel.