Ymchwiliad troseddol i safle tirlenwi Sir Benfro

WithyhedgeFfynhonnell y llun, Colin Barnett
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiadau o arogl drwg o'r safle ers mis Hydref y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ymchwiliad troseddol i "sawl achos difrifol" o dorri amodau trwydded gan weithredwyr safle tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.

Dydd Mawrth mewn sesiwn rhoi gwybodaeth i'r cyfryngau fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) honni fod gweithredwyr y safle, Resources Management UK Limited (RML) yn "rheoli'r safle'n wael".

Mae pobl sy'n byw ger y safle tirlenwi wedi dweud ei fod yn arogli fel "bom drewdod ar steroids" a'i fod wedi effeithio ar eu cartrefi.

Dywedodd RML eu bod yn "ymddiheuro'n ddiamod" am y sefyllfa ac y byddant "yn parhau i fod yn agored a chydweithio gydag unrhyw ymchwiliadau gan CNC".

Disgrifiad o’r llun,

Protest y tu allan i adeilad Cyngor Sir Penfro yn Hwlffordd ym mis Mawrth

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal fis diwethaf ar ôl adroddiadau bod arogl drwg yn dod o'r safle ers mis Hydref y llynedd.

Cafodd protest ei gynnal hefyd y tu allan i adeilad Cyngor Sir Penfro yn Hwlffordd ym mis Mawrth.

Dywedodd CNC wrth y wasg nad oedd amserlen bendant ar hyn o bryd ar gyfer cael gwared â'r arogl.

Mae RML yn rhan o Dauson Environmental Group, a roddodd £200,000 i ymgyrch arweinyddiaeth y Prif Weinidog Vaughan Gething.

Mae Dauson yn eiddo i David John Neal, a gafodd ddedfryd ohiriedig o dri mis yn 2013 am ollwng gwastraff yn anghyfreithlon, a dedfryd ohiriedig o 18 wythnos yn 2017 am beidio â’i lanhau.

Dywedodd CNC fod RML a Dauson “yn dangos parodrwydd i gydymffurfio”, a bod y gweithredwr yn gyfrifol am nodi pa wastraff sy’n mynd i mewn i’r safle.

Fe wnaethon nhw gadarnhau nad oedd unrhyw ffordd annibynnol o fonitro gwastraff.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd Grŵp Amgylcheddol Dauson £200,000 i ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething

Ychwanegodd CNC eu bod yn cydymdeimlo â'r gymuned ac yn cynnal ymweliadau wythnosol â'r safle.

Maen nhw’n cynnal “profion arogli”, gydag aelodau’r tîm sydd wedi derbyn “hyfforddiant asesu arogleuon”.

Rhoddwyd Hysbysiad Rheoliad 36 i'r gweithredwyr ddechrau mis Ebrill er mwyn iddyn nhw nodi'r aroglau sy'n dod o'r safle.

Fodd bynnag, dywedodd CNC fod yr arogl yn parhau ar ôl y dyddiad cau, sef 5 Ebrill, wrth i broblemau newydd gael eu nodi mewn gwahanol rannau o’r safle.

Y dyddiad cau newydd yw 14 Mai, meddai CNC.

'Deall y diffyg amynedd'

Dywedodd CNC eu bod yn deall "ddiffyg amynedd" y gymuned leol.

Mae Paul Davies, Aelod Senedd Cymru ar gyfer Preseli Penfro, wedi galw o'r blaen am ddiddymu trwydded RML.

Mae CNC yn dweud bod yn rhaid i RML weithredu ar amser, gan ychwanegu: “Mae angen i ni ddangos ein bod wedi gweithredu hyd eithaf ein gallu.”

Ychwanegwyd mai'r peth gorau fyddai cael gweithredwr ar y safle.

Roedd CNC yn annog pobl leol sy’n cael eu heffeithio gan yr arogl i barhau i roi gwybod am unrhyw faterion cyn gynted ag y byddant yn codi.