Deiseb yn galw am newid cyfraith wedi marwolaeth mab

Kaylan Hippsley
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu bachgen yn ei arddegau a gafodd ei ladd gan yrrwr oedd wedi yfed alcohol yn galw am newid i'r gyfraith o ran canllawiau dedfrydu.

Bu farw Kaylan Hipplsey, 13, dridiau ar ôl cael ei daro gan gar a oedd yn cael ei yrru gan Harley Whiteman, 19, ar Heol Aberhonddu yn Hirwaun ar 29 Chwefror.

Fe wnaeth Harley Whiteman a oedd wedi yfed pedwar peint o lager a chymryd cocên, ffoi o'r safle, cyn dychwelyd ac ymddwyn yn sarhaus cyn cael ei arestio.

Fe wnaeth gyfaddef iddo achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus ac fe gafodd ddedfryd o chwe blynedd a naw mis yn y carchar.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Aberhonddu yn Hirwaun

Mae teulu Kaylan wedi cychwyn deiseb yn galw am ddedfryd hirach i yrwyr sydd ynghlwm â damweiniau angheuol.

Mae'r ddeiseb, sydd eisoes wedi derbyn 3,000 o lofnodion, yn dweud: "Mae ein teulu wedi'i chwalu ac yn teimlo fel ein bod wedi cael ein gadael lawr gan y system gyfiawnder sydd yno i'n gwarchod"

"Roedd Kaylan wrth ei fodd gyda chwaraeon, yn enwedig rygbi, roeddem oll yn ei garu'n fawr ac mae wedi ein gadael llawer yn rhy fuan."

Mae'r ddeiseb hefyd yn nodi bod y "canllawiau sydd mewn lle ar hyn o bryd yn nodi os bydd rhywun yn lladd rhywun arall wrth yrru'n beryglus yna y gallen nhw dderbyn dedfryd o ddwy flynedd a chael eu rhyddhau wedi blwyddyn yn unig".

"Nid yw'r gosb sy'n cael ei rhoi yn cyfateb i'r drosedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "tra bod barnwyr annibynnol yn dewis hyd dedfryd, fe wnaethom gynyddu uchafswm y gosb o achosi marwolaeth wrth yrru'r beryglus i garchar am oes fel bod y gosb yn medru cyd-fynd â difrifoldeb y drosedd.

Mae'r rheiny sy'n euog bellach yn mynd i'r carchar am hirach nag erioed o'r blaen."

Pynciau Cysylltiedig