Newidiadau mawr ar y gweill i'r Cymru Premier

Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Y Seintiau Newydd ydy pencampwyr presennol y Cymru Premier

  • Cyhoeddwyd

Mae newidiadau mawr ar y ffordd i gynghrair y Cymru Premier, gan gynnwys mwy o glybiau, mwy o gemau ar nosweithiau Gwener, a VAR yn cael ei gyflwyno.

Fe gafodd y clybiau sy'n rhan o'r Cymru Premier wybod am y newidiadau gan swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn gynharach yn yr wythnos.

Mae disgwyl newidiadau pellach, gyda strwythur newydd i'w gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.

Gall y newidiadau pellach yma olygu bod hanner cynta'r tymor yn cael ei chwarae ar lefel ranbarthol, neu gychwyn y tymor yn gynt na’r arfer.

Bydd panel annibynnol yn rhannu eu canfyddiadau gyda chlybiau'r Cymru Premier erbyn mis Medi, ond mae cynlluniau eraill eisoes wedi’u cadarnhau a’u cyhoeddi gan benaethiaid y CBDC.

Dim cadarnhad am nifer y timau

Un o'r newidiadau yn y cynlluniau newydd yw cynyddu nifer y timau sy'n rhan o'r gynghrair.

Ar hyn o bryd mae 12 tîm. Bydd y cyfanswm newydd yn cael ei gadarnhau unwaith y bydd strwythur penodol i'r cynlluniau.

Mae fersiwn mwy syml o VAR - VAR Lite - wedi cael ei gymeradwyo hefyd, a bydd hynny'n cael ei gyflwyno unwaith y mae'r cyfleusterau mewn lle.

Newid arall sy'n rhan o'r cynlluniau yw cynnal mwyafrif y gemau ar nos Wener yn hytrach na phrynhawn Sadwrn.

Bydd hyn yn dod i rym erbyn dechrau’r tymor nesaf, fel rhan o ymgais CBDC i ddenu cefnogwyr sy'n gwylio gemau Uwch Gynghrair Lloegr a'r Bencampwriaeth ar brynhawn Sadwrn.

Bydd mwy o gemau yn cael eu cynnal ar nosweithiau Gwener fesul tymor, cyn i'r newid ddod yn un parhaol erbyn 2026.

Dyma ymdrech gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i foderneiddio’r gynghrair a helpu’r clybiau i weithredu mewn modd mwy proffesiynol.

Maen nhw hefyd yn gobeithio hawlio mwy o sylw drwy ddenu cefnogwyr i’r stadiymau ac i sicrhau fod mwy o bobol yn gwylio’r gemau sy’n cael eu darlledu.

Bydd £1m yn cael ei wario ar farchnata yn unig, heb son am filiwn arall i wella cyfleusterau.

Ond un peth amlwg sydd ar goll o’r datganiad - sawl clwb fydd yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru ar ei newydd wedd yn 2026/27?

Mae disgwyl i'r ffigwr fod yn uwch na’r 12 sy’n cystadlu ar hyn o bryd ond bydd rhaid aros tan fis Medi cyn i ni cael gwybod yr union ffigwr.

Ar yr olwg gynta mae’r ymateb i’r syniad o chwarae gemau ar nos Wener yn gymysg i ddweud y lleia, gyda nifer yn gofyn sut y bydd chwaraewyr lled broffesiynol gyda swyddi eraill yn gallu cydbwyso gweithio a theithio i chwarae gemau ar ddyddiau Gwener.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Aberystwyth i aros yn y Cymru Premier o drwch blewyn eleni

Daw'r mesurau yn dilyn y newyddion fis Chwefror y byddai’r Cymru Premier yn derbyn hwb o £6m, y buddsoddiad mwyaf mae'r gynghrair wedi'i gweld ers iddi lansio yn 1992.

Bydd tua £1m yn cael ei fuddsoddi ar gyfer marchnata, ac mae’r gynghrair yn awyddus hefyd i ystyried y posibilrwydd o gyfleoedd darlledu newydd.

Fe fydd swm tebyg yn cael ei roi i bob clwb dros gyfnod o dair blynedd i gefnogi datblygiadau, ynghyd â chynllun cymhorthdal ar gyfer rolau llawn amser fel rheolwyr cyffredinol.

Bydd rheolwyr datblygu elît yn cael eu cynnig gan CBDC, gyda’r bwriad o helpu clybiau i foderneiddio ac i fod yn fwy proffesiynol.

Fe fydd tua £1m yn cael ei roi ar gyfer datblygu cyfleusterau.

Daw'r newidiadau i rym yn dilyn cyfnod ymgynghori o ddwy flynedd gyda chlybiau a rhanddeiliaid, gyda phrif weithredwr CBDC Noel Mooney yn cyfaddef bod angen dangos “ychydig o gariad” at y gynghrair.

Bydd clybiau sy’n cymhwyso ar gyfer Ewrop hefyd yn cael eu cefnogi fel rhan o’r cynlluniau, gyda CBDC yn helpu i drefnu gemau cyfeillgar a chynnig cymorth gyda threfniadau fel teithio.