Ceredigion: Pryder am ddyfodol rhai ysgolion cynradd

Disgrifiad,

Dau riant - Meleri Williams ac Owen Jewell - yn mynegi eu pryder nhw am golli ysgol wledig Llangwyryfon

  • Cyhoeddwyd

Mae pryderon mewn sawl ardal yng Ngheredigion wrth i'r cyngor sir ystyried dyfodol ysgolion cynradd.

Yn ôl un cynghorydd sir mae dyfodol sawl ysgol yn cael eu hystyried.

Dyw'r cyngor ddim wedi nodi dyfodol pa ysgolion sy'n debygol o gael eu hystyried, ond yn ôl cynghorydd mae wyth ysgol o dan y chwyddwydr.

Nos Fercher daeth tua 70 o bobl ynghyd mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llangwyryfon i drafod "yr ymgyrch dros ddyfodol yr ysgol".

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn "edrych i ddechrau’r broses o adolygu’r sefyllfa o safbwynt ein hysgolion cynradd" er mwyn "cwrdd â’r heriau sylweddol sy’n bodoli ar draws ein gwasanaethau".

Nid oedd y cyngor am fanylu ar y "nifer o ysgolion nac arbedion posib tan fod y broses wedi cychwyn yn swyddogol".

Disgrifiad o’r llun,

Deallir y gallai dyfodol ysgolion Llangwyryfon, Bronant a Llangeitho (y ddwy ar gampws Rhos Helyg) fod o dan y chwyddwydr

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Nudd Lewis, cadeirydd llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Llangwyryfon, bod y broses o geisio sicrhau ymgynghoriad wedi dechrau.

"Yn sicr mae'r cyfan yn rhwystredig a'n dymuniad ni fel llywodraethwyr a rhieni yw cadw'r ysgol, sydd wedi bod ar restr o ysgolion da Estyn ers blynyddoedd maith, ar agor.

"Fydden ni'n hoffi cael bod yn rhan o ddatrysiad y cyngor sir a hefyd ni am gael gwybod pam bod swyddogion y cyngor yn credu bod yr ysgol yn anghynaladwy.

"Beth yw'r dystiolaeth? Mae 'na lot o blant wedi'u geni yn yr ardal yn ddiweddar ac ar eu ffordd i'r ysgol."

Disgrifiad o’r llun,

Dymuniad rhieni Ysgol Llangwyryfon yw cadw'r ysgol ar agor, medd Nudd Lewis

Ychwanegodd Mr Lewis fod yr ysgol yn galon y gymuned, ond yn fwy na hynny mae'n "galon Cymreictod".

"Cymraeg yw iaith naturiol yr iard ac mae cau'r ysgol yn bygwth un o gadarnleoedd yr iaith.

"Drwy symud plant i ysgolion mewn ardaloedd mwy maen nhw'n fwy tebygol o golli gafael ar y Gymraeg ac o fod â hyder i'w siarad hi yn y dyfodol.

"Fe symudon ni i'r ardal o Gaerdydd ac ar y pryd doedd fy merch ddim yn gwbl hyderus o ateb yn ôl yn Gymraeg, ond o fewn wythnos o symud i Langwyryfon mi 'naeth pethau newid.

"Fe gafodd ein plant, sydd bellach yn yr ysgol uwchradd, addysg ardderchog yma."

Ffynhonnell y llun, Nudd Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae cau'r ysgol yn "bygwth un o gadarnleoedd y Gymraeg", medd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon

Mae'r cyngor wedi cadarnhau y byddan nhw yn cyflwyno papur cynnig i'r Cabinet yn gynnar ym mis Gorffennaf er mwyn "nodi rhai posibiliadau ar gyfer cwrdd â’r heriau sylweddol".

"Fel rhan o gynlluniau’r awdurdod i sicrhau isadeiledd effeithlon a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol rydym yn edrych i ddechrau’r broses o adolygu’r sefyllfa o safbwynt ein hysgolion cynradd," medd llefarydd.

"Mae hwn yn gyfnod o heriau sylweddol i ysgolion a’r cyngor ac rydym am gydweithio er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu mor effeithlon â phosib."

Disgrifiad o’r llun,

Mae "cau ysgolion gwledig yn hoelen yn arch cefn gwlad", medd y cynghorydd Gwyn Wigley Evans

Dywed Gwyn Wigley Evans, y cynghorydd sir sy'n cynrychioli Llangwyryfon ac sydd hefyd yn llywodraethwr ar yr ysgol bod hi'n "sefyllfa anodd i'r cyngor wrth iddyn nhw a chynghorau eraill ar draws Cymru wynebu toriadau".

"Fel cynghorydd sir rwy'n llwyr ymwybodol o'r wasgfa ariannol ond wrth gwrs mae ysgolion yn galon y gymuned.

"Fe fyddai'r toriadau yn y byd addysg yn gallu arbed ryw £300,000.

"Yma yn Llangwyryfon mae'r niferoedd rhwng 27 a 31 ond mae ryw 15 o fabanod yn yr ardal allai fod yn dod yma.

"Be' fydd yn digwydd yn y cyfarfod nos Fercher yw trafodaeth a gweld faint o gefnogaeth sydd yn y gymuned i gadw'r ysgol.

"Mae matrix y cyngor sir yn llydan - oes, mae yna ystyriaeth i'r niferoedd, ond hefyd y gost fesul pen a ffactorau eraill."

'Dechrau'r broses yw hyn'

Ychwanegodd y byddai'n "drueni colli ysgol dda fel Llangwyryfon".

"Y llynedd fe gafon nhw adroddiad Estyn gwych ac mae'n rhaid cofio hynny a gwerth yr ysgol i gymuned cefn gwlad.

"Mae cau ysgolion gwledig yn hoelen arall yn arch cefn gwlad.

"Dechrau'r broses yw hyn - a'r cynghorwyr fydd yn pleidleisio yn y pen draw.

"Yr hyn y mae'r swyddogion yn ei wneud yw gweld lle mae modd arbed arian. Does yna ddim digon o arian."

Disgrifiad o’r llun,

"Ni'n mynd i 'neud popeth i gadw'r ysgol ar agor," medd Meleri Williams

"Ni'n teimlo'n grac. Mae'r ysgol fel asgwrn cefn - yn enwedig nawr gyda chefn gwlad o dan fygythiad o sawl man arall," medd Meleri Williams sy'n rhiant.

"Os chi'n cael gwared o ysgolion bydd y gymuned yn marw - mae e mor syml â hynny.

"Mae Ysgol Llangwyryfon yn hynod o arbennig - mae yna deimlad teuluol, cynnes, croesawgar.

"Chi'n cael rhywbeth mewn ysgolion cefn gwlad chi ddim mewn ysgolion arall.

"Mae'r diwylliant a'r iaith yn beth mawr yma. Cymraeg sy'n trechu fan hyn.

"Pam chi'n mynd â'r arian o blant? Dyma'u dyfodol nhw. Dyma eu seiliau nhw.

"Dyw'r ysgol ddim yn mynd i gau. Ni'n mynd i 'neud popeth i gadw'r ysgol ar agor."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae pawb yn becso" a does dim lot o wybodaeth, medd Owen Jewell

Dywed Owen Jewell sy'n rhiant ac yn gynghorydd cymuned yn Llangwyryfon, bod "pawb yn becso".

"Dydyn ni ddim yn cael gwybodaeth be' ni lan yn erbyn - ma' fe mor anodd.

"Chi ddim yn gwybod yw e'n bryd i chwilio [am ysgol arall].

"Mae cau ysgol fan hyn yn llusgo calonnau o 'r pentrefi bach. Mae pawb yn barod i ymladd yn erbyn y cynlluniau."

Ffynhonnell y llun, Daniel Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daniel Thomas, a welir ail o'r chwith yn rhes flaen y llun, yn ddisgybl yn ysgol Llangeitho

Dyw'r cyngor ddim wedi nodi dyfodol pa ysgolion sy'n debygol o gael eu hystyried ond yn ôl y cynghorydd Gwyn Wigley Evans mae wyth ysgol o dan y chwyddwydr - mae dwy o'r rheiny sef ysgolion Llangeitho a Bronant yn perthyn i gampws Rhos Helyg.

Mae Daniel Thomas yn byw gyferbyn ag ysgol Llangeitho ac yn gynghorydd cymuned.

Wrth ymateb dywedodd: “Mae’r newyddion bod y cyngor sir yn ystyried yr ysgol yn ddiflas iawn. Mae’r ysgol yn ganolbwynt y pentref.

"Ni mewn cyfnod lle mae’r siop leol ar werth a lle mai ond dyrnaid o bobl sy’n mynd i’r capel gerllaw.

“Dyma ysgol fy mhlentyndod, ysgol Mam a Mam-gu ac roedd fy Hen Dad-cu yn brifathro ar yr ysgol.

“Heb yr ysgol fe fydd y pentre yn ddifywyd ac mae’r ysgol yn helpu i gynnal Cymreictod pentref Llangeitho. Mae’n bwysig bod hi’n aros ar agor.”

Disgrifiad o’r llun,

15 mlynedd yn ôl aeth Ysgol Llangeitho drwy broses debyg, drwy uno ag ysgolion Pen-uwch a Bronant

Mae Ysgol Rhos Helyg yn gynnyrch proses ffederaleiddio a ddigwyddodd yn 2014 er mwyn gwasanaethu’r ardal o amgylch Bronant a Llangeitho.

"Ymysg cryfderau ein hysgol ni, yn ôl adroddiad diweddaraf Estyn, mae safon uchel yr addysgu, amrywiaeth y cyfleoedd i ddysgwyr, a naws gartrefol a Chymreig yr ysgol," medd Cathryn Charnell-White, y rhiant-lywodraethwr cyfredol

"Felly, rwy’n ymfalchïo yn llwyddiant ein hysgol ni fel ysgol ffederal ac fel ysgol gymunedol: nid yn unig y mae ein plant yn cael eu haddysgu yn eu cymuned eu hunain, ond mae’r ysgol hefyd, drwy ystod eang o weithgareddau drwy’r flwyddyn, yn cyfrannu’n aruthrol at hyfywedd a Chymreictod y gymuned ehangach.

"O safbwynt llesiant cenedlaethau’r dyfodol, felly, mae ysgolion cymunedol fel ein hysgol ni yn cynnig gwerth di-ail am arian!"

"Mae'n anodd meddwl bod yna fygythiad i ni eto," medd y cynghorydd lleol Dafydd Morse.

"Wrth golli'r ysgol chi'n colli brwdfrydedd a rhieni ifanc.

"Pan mae ysgol yn cau mae'n fygythiad hefyd i fusnesau lleol.

"Mae dywediad gan grŵp gweithredu Rhos Helyg sef bod 'cymuned heb ysgol fel gardd heb flodau, heb ei chalon fywiog a thwf yn ei dyfodol'.

"Ni'n teimlo'n gryf am y bygythiad ac yn ei wrthwynebu."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion mai "y cam cyntaf fydd cyflwyno papur cynnig i’r cabinet yn gynnar ym mis Gorffennaf eleni sy’n nodi rhai posibiliadau ar gyfer cwrdd â’r heriau sylweddol".

"Ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ac fe fyddwn yn glynu’n agos at God Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru," meddai.

Pynciau Cysylltiedig