Manylion am farwolaeth Cymro ar fwrdd awyren 'yn brin'

Richard OsmanFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Richard Osman yn gweithio gyda chwmni mwyngloddio aur yn yr Aifft

  • Cyhoeddwyd

Mae gwrandawiad cyn cwest i achos Cymro fu farw pan ddisgynnodd awyren i'r môr wyth mlynedd yn ôl, wedi clywed mai prin iawn yw'r wybodaeth newydd am yr amgylchiadau arweiniodd at y digwyddiad.

Roedd Richard Osman, oedd yn 40 oed ac wedi ei fagu yng Nghaerfyrddin, ymhlith 66 o bobl oedd yn teithio i'r Aifft o Baris ar awyren EgyptAir ym mis Mai 2016.

Fe wnaeth yr awyren golli cysylltiad radar a diflannu dros Fôr y Canoldir ar ôl troi yn sydyn ddwywaith a disgyn i'r dŵr.

Dywedodd cyfreithiwr ar ran teulu Mr Osman fod ei wraig, Aurelie, eisiau cwest sydd â gwerth gwirioneddol yn hytrach na phroses frysiog.

Fe gytunodd y crwner, Mark Layton, bod angen i'r cwest "gael ei wneud yn iawn er mwyn canfod atebion", a'i fod yn "barod i aros a chynnal cwest ystyrlon fydd yn cynnig yr atebion y mae hi yn ei haeddu".

Mae'r mater wedi ei ohirio am chwe mis.

Pynciau Cysylltiedig