Caernarfon i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf erioed

Louis LloydFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Louis Lloyd sgoriodd y gôl gyntaf i Gaernarfon

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd Clwb Pêl-droed Caernarfon yn chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl ennill rownd derfynol gemau ailgyfle'r Cymru Premier.

Fe enillodd y Cofis o 3-1 diolch i goliau gan Louis Lloyd, Zack Clarke a Sion Bradley yn yr hanner cyntaf.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Caernarfon yn hawlio'u lle yn rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa - neu'r Europa Conference League - ac yn derbyn hwb ariannol o bron i £200,000.

Dywedodd rheolwr y clwb, Richard Davies, cyn y gêm, y byddai cyrraedd Ewrop yn gallu "newid y clwb am byth".

Ffynhonnell y llun, Mabon Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cynnwrf yn amlwg o amgylch tref Caernarfon cyn y gêm

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 20 munud wedi gôl gan yr asgellwr Louis Lloyd.

Chwaraeodd Darren Thomas bas wych drwy ganol amddiffyn Penybont, ac fe lwyddodd Lloyd i godi'r bêl dros y golwr - gan rwydo am y degfed tro'r tymor hwn.

Fe chwaraeodd Lloyd ran hollbwysig yn yr ail gôl hefyd, yn cael ei lorio gan Billy Borge yn y cwrt cosbi wedi i'r amddiffynnwr de fethu a delio gyda phêl uchel dros ei ben.

Fe ergydiodd Zack Clarke yn bwerus i gornel y rhwyd o 12 llath i'w gwneud hi'n 2-0 i'r Cofis ar ôl 26 munud.

Ffynhonnell y llun, Mabon Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rheolwr Caernarfon, Richard Davies, y byddai  cyrraedd Ewrop yn gallu "newid y clwb am byth"

Deg munud yn ddiweddarach ac roedd hi'n 3-0 diolch i gôl ardderchog gan Sion Bradley.

Fe gipiodd Bradley'r meddiant ar yr asgell chwith, mynd heibio amddiffynnwr arall ar ymyl y cwrt cosbi cyn crymanu'r bêl heibio'r golwr i gornel y rhwyd.

Roedd cyfleoedd i'r ddau dîm yn yr ail hanner ond fe lwyddodd Caernarfon i amddiffyn eu mantais tan yr eiliadau olaf.

Fe wnaeth Ryan Reynolds, amddiffynwr Penybont sy'n dod yn wreiddiol o Gaernarfon, ergydio'n gywir o 30 llath i gornel ucha'r rhwyd i'w gwneud hi'n 3-1.

Ffynhonnell y llun, Mabon Rowlands