Prifysgol Caerdydd yn gwneud toriadau er bod £500m wrth gefn

- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg bod cyfrifon wrth gefn heb gyfyngiadau Prifysgol Caerdydd wedi cynyddu dros 50% mewn blwyddyn, i fwy na £500m.
Daw wedi i'r brifysgol gyhoeddi eu bwriad yn gynharach yr wythnos hon i dorri 400 o swyddi, cau rhai adrannau yn llwyr, ac uno eraill.
Dywedodd undeb y darlithwyr wrth Newyddion S4C eu bod yn galw ar y brifysgol i ddefnyddio peth o'u harian wrth gefn i liniaru'r pwysau ariannol ar y sefydliad.
Yn ôl Prifysgol Caerdydd, dyw arian wrth gefn heb gyfyngiadau ddim yn cyfateb ag arian parod i'w wario.
Maen nhw'n dweud bod "costau dysgu ac ymchwilio £31.2m yn ddrutach na'r arian gafodd ei gynhyrchu gan y gweithgareddau rheiny".
Dywedodd cynrychiolydd undeb yr UCU ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Andy Williams, bod yr undeb yn trafod streicio gyda'r aelodau.

Dywedodd cynrychiolydd undeb yr UCU ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Andy Williams, bod y toriadau yn "greulon"
Ychwanegodd Dr Williams: "Mae arian mawr iawn wrth gefn gan y brifysgol allai gael ei ddefnyddio i gyllido gwelliant mwy graddol a gofalus na fydd yn chwalu bywydau fel bydd eu toriadau arfaethedig.
"Ry'n ni'n awgrymu defnyddio peth o'r arian mewn modd strategol ac wedi'i seilio ar dystiolaeth i gynllunio adferiad hirach nag y mae'n ymddangos mae'r brifysgol am ei weld.
"Mae gan y brifysgol gannoedd o filiynau o bunnoedd mewn arian wrth gefn ac mae talp mawr o hynny ar gael iddyn nhw.
"Ry'n ni'n crafu pen pam eu bod nhw'n gwthio cynlluniau i barhau gyda thoriadau creulon pan bod opsiynau eraill ar gael."
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
Yn ôl y ddogfen sydd wedi ei rhyddhau yn gynnar ac wedi'i gweld gan Newyddion S4C, cynyddodd gwerth asedau net Prifysgol Caerdydd o 26.1% rhwng Gorffennaf 2023 a Gorffennaf 2024.
Cadarnhaodd y brifysgol bod y ffigwr o £506m mewn arian wrth gefn yn gywir, ond fe ddywedon nhw y byddai honni bod £506m ar gael i'w wario yn anghywir.

Dywedodd Is-ganghellor y brifysgol, Wendy Larner bod "yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd"
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Is-ganghellor y Brifysgol Wendy Larner: "Mae gennym arian wrth gefn, ond dyw e ddim heb gyfyngiadau.
"Gall arian wrth gefn gael ei wario unwaith yn unig.
"Os ydyn ni'n gwario arian wrth gefn ar gostau rhedeg y brifysgol, ry'n ni'n oedi'r hyn sydd yn anochel."
Pam cerddoriaeth a nyrsio?
Mae cerddoriaeth a nyrsio ymysg yr adrannau fyddai'n diflannu'n llwyr dan gynigion y brifysgol.
Yn siarad ar BBC Radio 4 fore Gwener, ychwanegodd Yr Athro Larner bod "maint yr her ariannol sy'n ein hwynebu yn sylweddol".
"Rydyn ni'n edrych yn galed iawn ar ein hysgol gerdd. Mae dwy ysgol gerdd yng Nghaerdydd.
"Mae hyn yn rhan o'r darlun ehangach yma - mewn cyd-destun lle mae adnoddau mor brin, ni all y sector fforddio cystadlu yn y ffordd y mae wedi bod.
"Nyrsio - mae pedwar darparwr nyrsio yn ne-ddwyrain Cymru.
"Rydym am ofyn y cwestiwn, a allwn ni wneud hynny'n well? A allwn ni gefnogi'r GIG yn well mewn ffyrdd eraill?"
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Dyw gwarged cyfrifo ddim yn cyfateb i arian parod all gael ei wario i osgoi gwneud newidiadau angenrheidiol i'r Brifysgol.
"Mae'r brifysgol yn wynebu diffyg strwythurol. Mae hynny'n golygu bod y refeniw ry'n ni'n ei dderbyn o weithgaredd dysgu ac ymchwil yn llai na'r arian mae'r gweithgareddau rheiny yn ei gynhyrchu a bydd ein cyfrifon yn nodi bod diffyg o £31.2m i'r perwyl hwnnw yn y flwyddyn orffennodd ar 31 Gorffennaf 2024."