Trafferthion technegol yn taro Cwis Bob Dydd

Cyflwynwyr Ffynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Fe ddechreuodd tymor newydd y gêm boblogaidd, Cwis Bob Dydd S4C, ddydd Llun, ond mae nifer wedi cael trafferth wrth geisio defnyddio'r ap ar ei newydd wedd.

Mae cyfrif Cwis Bob Dydd wedi nodi ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn "ymwybodol o broblem technegol sy'n effeithio rhai defnyddwyr wrth ddiweddaru'r ap".

Maen nhw'n dweud eu bod yn gobeithio datrys y broblem yn fuan.

Mae nifer wedi dweud ar y cyfryngau cymdeithasol bod "gwall dilysu" yn ymddangos wrth geisio mewngofnodi, ac oherwydd hynny eu bod methu chwarae'r cwis.

Disgrifiad o’r llun,

Mae neges "gwall dilysu" yn ymddangos i nifer wrth geisio mewngofnodi

Bydd y tymor hwn, pedwerydd tymor y cwis, yn rhedeg am 20 wythnos.

Doedd S4C ddim am wneud sylw pellach.

Pynciau Cysylltiedig