Rhybudd crwner wedi marwolaeth bachgen yn Afon Taf

Aryan GhoniyaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Aryan wedi galw ar rieni "i egluro i'w plant am beryglon afonydd"

  • Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi rhybuddio am y peryglon o nofio mewn afonydd yn dilyn marwolaeth bachgen 13 oed yng Nghaerdydd yn 2022.

Ddydd Mawrth cofnododd cwest mai damwain oedd marwolaeth Aryan Ghoniya ar ôl iddo fynd i drafferthion wrth nofio yn Afon Taf gyda'i ffrindiau ar 21 Mehefin, 2022.

Clywodd y cwest bod Aryan yn fachgen "caredig, cwrtais ac aeddfed a oedd ar frig ei ddosbarthiadau yn yr ysgol".

Roedd disgwyl iddo sefyll ei arholiad mathemateg TGAU ddwy flynedd yn gynnar.

Wrth grynhoi ei dystiolaeth, dywedodd y crwner cynorthwyol mai damwain oedd marwolaeth Aryan a hynny am "nad oedd yn nofiwr hyderus".

Disgybl 'disglair'

Fe glywodd y cwest fod y gwasanaethau brys wedi eu galw i Afon Taf tua 16:45 ar 21 Mehefin 2022 yn dilyn adroddiadau o blant yn y dŵr a bachgen ar goll, yn agos i Heol Fferm y Fforest yn yr Eglwys Newydd.

Fe gafodd corff Aryan ei ganfod wedi ymchwiliad trylwyr gan yr heddlu, y gwasanaethau tân, criw ambiwlans, gwylwyr y glannau a hofrennydd yr heddlu.

Roedd Aryan yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Radur.

Fe glywodd y cwest ei fod yn ddisgybl "disglair" ac roedd ganddo lwyth o ddilynwyr ar TikTok ar ôl i dros filiwn o bobl weld ei fideo yn enwi 109 o wledydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd balŵns eu gosod yn yr afon i gofio am y bachgen ifanc

Roedd Aryan yng nghwmni pedwar o'i ffrindiau ar ddiwrnod ei farwolaeth.

Fe gafodd ei ddisgrifio fel "nofiwr dihyder" ond un oedd yn gallu nofio.

Yn ystod y cwest ym Mhontypridd cafodd tystiolaeth gan y pedwar plentyn ei ddarllen gan y crwner cynorthwyol, David Regan.

Mewn datganiad, fe ddisgrifiodd un plentyn, a oedd yn ffrind i Aryan, sut eu bod wedi cychwyn yn adran fas yr afon a dywedodd fod "Aryan wedi mynd yn nerfus ac wedi cychwyn mynd i banig" oherwydd dyfnder y dŵr.

Yn y datganiad dywedodd: "Fe ddechreuodd sblasio a phanico yn y dŵr. Fe wnes i drio helpu ond ro' n i methu ac roedd yn rhaid nofio 'nôl."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd corff Aryan ei ganfod wedi ymchwiliad trylwyr gan y gwasanaethau brys

Cafodd tystiolaeth gan berson oedd yn mynd â'i chi am dro hefyd ei ddarllen yn y cwest.

Dywedodd Janine Jones yn ei datganiad ei bod yn gallu gweld dau fachgen yn y dŵr, gan gynnwys Aryan.

Nododd ei fod yn dal yn ei ddillad yn y dŵr a'i fod yn ymddangos yn "ofalus".

Ond dywedodd fod bachgen arall yn ei annog i fynd yn ddyfnach i'r afon.

Dywedodd fod plant yn aml yn chwarae yn yr afon ar ddyddiau cynnes a nad oedd hi'n poeni.

Rhybudd am beryglon afonydd

Fe wnaeth y crwner cynorthwyol, David Regan, rybuddio pobl am beryglon nofio mewn afonydd gan ddweud: "Er nad oedd cerrynt amlwg y diwrnod hwn, mae afonydd yn dal yn gallu bod yn beryglus yn sgil y rwbel anweledig sydd ar wely'r afon."

Fe gyfeiriodd hefyd at y tymheredd oer, methu gweld yn iawn ac at y ffaith nad oedd oedolion yn bresennol.

Fe ddaeth i'r casgliad mai damwain oedd y farwolaeth gan ddiolch a chydymdeimlo â'r teulu.

Pynciau Cysylltiedig