Gaeleg yr Alban: Galw am wneud mwy i hybu'r iaith

Plant yn siarad Gaeleg
  • Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau'r cyfrifiad diweddaraf yn dangos bod cynnydd yn nifer y bobl sy'n gallu siarad Gaeleg yr Alban, ond mae pryder bod yr iaith yn colli tir mewn rhai ardaloedd.

69,701 o bobl oedd yn medru siarad yr iaith yn 2022, o'i gymharu â 57,602 yn 2011.

Cynnydd yn nifer y plant sy’n astudio’r iaith yn yr ysgol sydd i gyfri' am y ffigyrau calonogol yn ôl arbenigwyr.

Mae 2.5% o bobl dros dair oed bellach yn medru rhywfaint o’r iaith - cynnydd o tua 50% o’i gymharu â 2011 a 2001.

Mae disgyblion ysgol, athrawon ac academyddion yn galw am wneud mwy i hybu’r iaith y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, os am sicrhau bod yr iaith yn ffynnu o ddydd i ddydd o fewn cymunedau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn cytuno bod angen gweithredu i sicrhau twf yr iaith

Mae'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiad Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cytuno bod angen gweithredu i sicrhau twf yr iaith.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Os na fydd yna gornel yn cael ei throi hefo’r Gaeleg mi welwn ni y bydd hi’n iaith rwydweithiau, y bydd hi’n iaith cymdeithasau, y bydd hi’n iaith lleiafrifoedd bychain o fewn poblogaethau llawer mwy ac na fydd hi’n iaith gymunedol, ddaearyddol yn y ffordd rydan ni wedi ei gweld hi dros y canrifoedd diwetha'.”

'Siomedig iawn'

Mae tystiolaeth fod hynny eisoes yn digwydd, gyda’r iaith yn colli tir yn rhai o’i chadarnleoedd traddodiadol.

Ar ynysoedd gorllewinol yr Alban er enghraifft mae’r iaith yn cael ei hystyried fel un leiafrifol erbyn hyn.

Roedd 54% o bobl yr ynysoedd yn siarad yr iaith yn 2011 ond mae’r ffigwr wedi gostwng i 45% yn ôl cyfrifiad 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig John Owain Jones yn byw yn Greenock ac yn dweud bod y sefyllfa "yn siomedig iawn"

Mae'r Parchedig John Owain Jones yn byw yn Greenock.

Mae'n dweud bod y sefyllfa "yn siomedig achos fod yna ansawdd arbennig i’r Gaeleg sy’n cael ei siarad ar yr ynysoedd a hefyd o ran hynny, mae’r Gaeleg sy’n cael ei siarad yn Skye er enghraifft yn wahanol iawn i’r Gaeleg sy’n cael ei siarad yn Lewis".

"Yr argraff dwi’n cael ydy y bydd y gwahaniaethau yma sy’n rhan o gyfoeth yr iaith yn cael eu tanseilio ac efallai’n marw allan os ydy’r iaith yn marw yn y cadarnleoedd, ac mae hynny’n golled.”

Er bod sefyllfa’r Gymraeg dipyn yn fwy cadarnhaol, roedd yna ostynigad yn nifer y siaradwyr yn ôl Cyfrifiad 2021, gyda’r dirywiad yn y cadarnleoedd hefyd yn broblem amlwg yma.

Sut mae mynd ati felly i sicrhau dyfodol iaith leiafrifol?

Dywedodd Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: “Be' sy' gyda ni yng Nghymru wrth gwrs yw mae gyda ni gontinwwm daearyddol, ieithyddol, yn enwedig ar hyd y gogledd ac yn rhannau sylweddol o’r de orllewin. "

'Angen astudio'n fwy manwl'

"Be' sy’n bwysig i ni ydy sicrhau bod gyda ni gyfleoedd i bobl o’r gwahanol ardaloedd hynny i gymysgu hefo’i gilydd a bo' ni ddim dim ond yn edrych ar symudedd poblogaeth o’r gogledd a’r gorllewin i lawr i’r de, ond bo' ni hefyd yn edrych ar gyfleoedd i bobl sy' wedi eu magu yn ne Cymru i fedru symud i’r gogledd a’r gorllewin heb fod gyda nhw unrhyw gysylltiad teuluol.

"Felly mae’n rhaid i ni edrych yn fwy cylchol ar sut mae’n symudedd ni’n digwydd.

"Er mwyn cael gwybod mwy am ddefnydd iaith ar draws hyd a lled Ewrop mae angen cael astudiaethau llawer mwy manwl, sy’n dadansoddi pryd mae pobl yn siarad yr iaith, 'efo pwy, o dan ba amgylchiadau ac yn y blaen.

"A’r hyn ‘da ni’n weld ydy bod angen economi gryf i gadw iaith, felly mae angen cynllunio economaidd a chynllunio ieithyddol i gyd-redeg ar yr un pryd.”

Pynciau Cysylltiedig