Tiwmor ar yr ymennydd: 'Ti'n meddwl bod ti'n mynd i farw'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn a TomosFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn "yn ceisio gwneud y pethau bach yn aml, fel dweud wrth Tomos fy mod i'n ei garu fo"

Roedd cael gwybod bod ganddo diwmor yn tyfu ar ei ymennydd yn sioc i Carwyn Jones, 52 oed, o Ddinbych.

Cafodd y diagnosis yn 2010, wedi iddo fynnu cael sgan yn dilyn misoedd o gael meigrynau difrifol.

Roedd y tiwmor yn fawr ac roedd angen llawdriniaeth yn brydlon.

Meddai Carwyn: "Ti'n meddwl bod ti'n mynd i farw, bo' ti wedi cael death sentence."

"Roeddwn i wedi dychryn ac yn ofnus. Roedd dagrau wrth i mi dorri'r newyddion i Enlli fy ngwraig."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn ar ôl y llawdriniaeth

Tiwmor gradd dau oedd gan Carwyn gan olygu, er nad oedd y tiwmor yn ganser, roedd yn debygol o aildyfu.

Dyna ddigwyddodd yn 2016, ac eto ddwy flynedd yn ôl.

"Tro diwethaf daeth o'n ôl nes i ffeindio hwnna'n anodd iawn oherwydd roedd Tomos fy mab bach yn hŷn. O'n i'n ofn yr oblygiadau posib ar y teulu," meddai.

Buddsoddi hyd at £1 miliwn y flwyddyn

Mae Carwyn yn un o 500 o bobl sy'n cael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw'n sefydlu canolfan ymchwil tiwmorau'r ymennydd cyntaf y wlad.

Y nod ydy buddsoddi hyd at £1m bob blwyddyn, gan ddod ag arbenigwyr at ei gilydd i geisio deall y cyflwr yn well.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Carwyn: "Dwi'n byw yn gwybod bod yna bennod arall yn y stori i ddod.

"Wrth gwrs, fy ngobaith i ydy mai'r bennod nesaf yw'r bennod olaf, bod 'na driniaeth newydd sy'n dod â diwedd i hyn oll.

"Gobeithio mae'r buddsoddiad yma'n galluogi hynny."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn yn mwynhau treulio amser gyda'i wraig Enlli a'u mab, Tomos

Er bod y tiwmor wedi mynd, mae'r llawdriniaethau mae Carwyn wedi eu cael ar yr ymennydd yn dal i effeithio arno.

"Yr effaith ar fy nheulu sy'n anodd gweld. Mae fy nghof i wedi'i effeithio felly dwi'n anghofio pethau.

"Erbyn hyn mae yna restr wrth ymyl y drws, rhyw fath o checklist fel fy mod i'n cofio beth sydd angen arnaf cyn gadael y tŷ."

'Byw un dydd ar y tro yn gallu helpu'

Mae'n dweud hefyd bod y llawdriniaethau wedi effeithio "ar fy emosiynau a'r ffordd dwi'n rheoli nhw".

"Dwi'n gallu colli tymer yn haws na cyn y llawdriniaethau. Dwi hefyd yn gweld yr effaith ar fy ngwaith gyda chanolbwyntio yn anoddach.

"Mae o'n anodd, ond mae byw un dydd ar y tro yn gallu helpu.

"A dwi'n ceisio gwneud y pethau bach yn aml, fel dweud wrth Tomos fy mod i'n ei garu fo."

Mae Carwyn yn cael sgan MRI bob chwe mis i sicrhau nid yw'r tiwmor wedi dod yn ôl, ond mae'n gobeithio y gall ymchwil pellach leihau'r ofn i gleifion.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn yn un o 500 o bobl sy'n cael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd yng Nghymru bob blwyddyn

Dywedodd Dr Lee Campbell, pennaeth ymchwil Ymchwil Canser Cymru,

"Mae llai na hanner y bobl sy'n cael tiwmor ar yr ymennydd yn fyw am flwyddyn ac mae 'na gynnydd o dros 30% wedi bod mewn achosion o'r clefyd ar draws y Deyrnas Unedig ers yr 1990au.

"Felly nod ein buddsoddiad ni yw gallu mynd i'r afael â'r cyflwr yma a dod â thriniaethau newydd a gobaith i gleifion.

"Mae nifer o astudiaethau wedi dangos y fwyaf o ymchwil mae eich sefydliadau iechyd yn eu gwneud, y gorau yw'r canlyniadau i gleifion sy'n byw yn yr ardal honno."

Dywedodd y byddai'r cyllid yn canolbwyntio ar ymchwil arloesol a chysylltu Cymru â chanolfannau eraill ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

"Rydym hefyd am fuddsoddi er mwyn gallu anfon ein harbenigwyr i wledydd eraill i ddysgu'r technegau a'r triniaethau diweddaraf er mwyn dod â nhw yn ôl i Gymru, fel bod cleifion o Gymru ymhlith y cyntaf i elwa o'r datblygiadau sy'n dod o'n hymchwil ni."

Pynciau Cysylltiedig