Cyn-asgellwr Abertawe a Chymru, Terry Medwin, wedi marw

Terry MedwinFfynhonnell y llun, Tottenham Hotspur
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-asgellwr Abertawe, Cymru a Tottenham Hotspur, Terry Medwin, wedi marw yn 91 oed.

Yn enedigol o Abertawe, fe chwaraeodd Medwin 30 gwaith i Gymru, ac fe sgoriodd y gôl fuddugol yn y fuddugoliaeth yn erbyn Hwngari o 2-1 yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden.

Y gôl honno yn Stadiwm Rasunda yn Solna ydy un o'r goliau pwysicaf yn hanes tîm Cymru.

Fe arweiniodd y fuddugoliaeth at le yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Brasil.

Yn 2014, dywedodd Medwin: "Roedd yn amser pell yn ôl, a dyna'r unig dro i ni gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd, ond nawn ni fyth anghofio hynny.

"Roedd yn brofiad arbennig chwarae dros Gymru pan nes i ennill fy nghap cyntaf, ond roedd hyd yn oed yn well pan aethon ni i rownd yr wyth ola yng Nghwpan y Byd."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Terry Medwin yn rhan o garfan Tottenham Hotspur pan enillon nhw'r gynghrair a Chwpan yr FA yn 1961

Fe chwaraeodd ei gêm gyntaf i Abertawe yn 1949 ac roedd yn chwaraewr allweddol i'r clwb, cyn iddo symud i Tottenham yn 1956 am £25,000.

Roedd yn chwarae i Spurs pan enillon nhw'r gynghrair a Chwpan yr FA yr un flwyddyn yn 1961, a Chwpan yr FA eto ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Fe ddaeth ei yrfa fel pêl-droediwr i ben pan dorrodd ei goes tra'n chwarae i Spurs yn 1963.

Ar ôl ymddeol fel chwaraewr, bu'n hyfforddi yn Fulham a bu'n hyfforddwr cynorthwyol i John Toshack yn Abertawe ddiwedd y 70au a ddechrau'r 80au.

Roedd yn westai anrhydeddus wrth i garfan Cymru gael ei chyhoeddi ar gyfer Cwpan y Byd yn 2022.