Lauren Price a'i thaith i frig y byd bocsio

Lauren a KathFfynhonnell y llun, Kath Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Price a Kath Morgan

  • Cyhoeddwyd

Jimmy Wilde, Howard Winstone, Joe Calzaghe a Lee Selby – enwau sydd ymysg yr 13 pencampwr bocsio’r byd o Gymru.

Dydd Sadwrn, 11 Mai, mae’n bosib y bydd Cymru’n dathlu pencampwr byd rhif 14 wrth i Lauren Price o Ystrad Mynach wynebu Jessica McCaskill yng Nghaerdydd.

McCaskill o Chicago yw pencampwr pwysau welter y byd, ac mae’r beltiau WBA, WBC ac IBO yn ei meddiant.

Os fydd Lauren Price yn fuddugol, hi fydd y ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Price yn ei gornest ddiweddaraf; buddugoliaeth yn erbyn Silvia Bortot ym mis Rhagfyr 2023

Ond cyn iddi ddechrau ar ei siwrne focsio roedd Lauren yn rhagori mewn pêl-droed, gan chwarae dros Gaerdydd ac ennill capiau rhyngwladol i Gymru.

Rhywun sydd yn ei ‘nabod yn dda yw Kath Morgan, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a'r ferch gyntaf o Gymru i ennill bathodynnau hyfforddi trwydded 'A' gan UEFA, yn 2008.

“Pan ddaeth Jarmo Matikainen yn rheolwr ar dîm menywod Cymru yn 2010 o’n i’n rheolwr cynorthwyol iddo," meddai. "Yn fy rôl o’n i’n gyfrifol am y timau iau; dan-17, dan-18 a dan-19. Daeth Lauren fewn i’r system cenedlaethol yn 2011.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lauren yn cynrychioli Cymru dan-19 yn erbyn Lloegr - 2 Ebrill, 2012

Fe wnaeth Lauren argraff fawr ar Kath yn syth.

“Pan ddaeth hi fewn ges i fy nharo gan pa mor broffesiynol oedd hi ac hefyd pa mor aeddfed oedd hi. Roedd gen hi’r focus ‘ma o’n i erioed wedi gweld o'r blaen.

“Odd hi o’r Cymoedd fel fi, a ni’n hoffi edrych ar ôl ein gilydd yno felly ‘nes i gadw llygad arni.

“Be' dwi’n gofio yw o'dd hi mor ddiolchgar am unrhyw tips ac adborth, ac o'dd hi’n amsugno fe i gyd lan.”

Roedd Lauren yn chwarae i dîm dan-19 Cymru gyda Nia Jones, a aeth ymlaen i chwarae pêl-rwyd dros Gymru.

“Odd hi (Lauren) yn flaenllaw iawn yn ngharfan dan-19, ac fe roedd hi a Nia Jones yn rhannu’r gapteiniaeth.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lauren yn cynrychioli tîm Cymru, yn gwisgo'r crys rhif pump. Hefyd yn y llun mae ambell i wyneb cyfarwydd arall fel Nia Jones (rhif pedwar), Jess Fishlock (rhif chwech) a Sophie Ingle (rhif tri)

Mae Lauren Price wedi sôn yn y gorffennol ei bod wedi cael plentyndod anodd, gyda'i ddau riant yn byw gydag alcoholiaeth, ac o ganlyniad cafodd hi ei magu gan ei nain a'i thaid.

Ond er yr heriau hyn fe ragorodd Lauren gyda'r timau iau ac fe aeth 'mlaen i chwarae dros y tîm hŷn.

Chwaraeodd Lauren ddwywaith dros brif dîm rhyngwladol Cymru yn 2012-13, tra roedd hi’n chwarae dros Glwb Dinas Gaerdydd.

“Roedd hi’n esiampl, o ran hyfforddi, ffitrwydd a disgyblaeth”, meddai Kath.

“Falle roedd ‘na chwaraewyr yn well na hi yn dechnegol, ond doedd ‘na neb yn well o ran ymroddiad – hyfforddi’n galed, bwyta’n iawn a cymryd ice-baths ac ati.”

Roedd Lauren yn paffio yr un pryd â’i gyrfa pêl-droed.

“Dydy bywyd fel bocsiwr ddim yn hudolus fel mae pobl yn ei feddwl. Ma' fe’n fywyd ynysig - ry' chi’n hyfforddi ben eich hun, mynd drwy’r un rwtîn dro ar ôl tro, ac mae hynny’n cymryd disgyblaeth arbennig.”

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Lauren fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020. Mae hi hefyd wedi ennill y fedal aur yn y Gemau Ewropeaidd, Gemau'r Gymanwlad ac ym Mhencampwriaethau'r Byd

Mae Kath yn cofio un digwyddiad yn gymharol ddiweddar sy’n dangos cymeriad Lauren.

“Dwi’n cofio cymryd sesiwn hyfforddi pêl-droed Nghaerffili ar y caeau 4G ble mae tîm rygbi’r Dreigiau yn hyfforddi, ac roedd Lauren digwydd bod yno," meddai.

“Roedd hi newydd ddod nôl o Tokyo ble enillodd hi fedal aur, ac roedd hi’n rhoi cyfweliadau i’r wasg.

“Rhwng y cyfweliadau ‘nes i chwibanu ar y merched ar y cae i ddod fewn yn agosach – dwi’n eitha' adnabyddus am allu chwibanu yn uchel iawn gyda fy mysedd.

“Fe glywodd Lauren fi’n chwibanu a throi rownd a dweud ‘I thought I recognised that whistle!’, a ddaeth hi lawr i siarad gyda fi.

"‘Nath hi dynnu lluniau gyda’r merched, ac yna ‘nath hi ddiolch i fi am ei helpu hi gyda’i gyrfa pan oedd hi’n iau. ‘Nath hi hyd yn oed ymddiheuro am ddewis bocsio dros bêl-droed, ond ‘nes i ddweud bod fi ddim yn gweld bai arni o gwbl - dwi'n meddwl 'nath hi' r penderfyniad iawn!

“Dyna sut fath o ferch yw Lauren; hoffus iawn a diymhongar. Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn i fod wedi gallu cyfrannu rhywfaint i’w gyrfa chwaraeon hi.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lauren gyda'i gwrthwynebydd, Jessica McCaskill

Gornest gyfartal cafodd Jessica McCaskill yn ei hymddangosiad diwethaf yn y sgwâr bocsio, ac yn 39 oed mae hi 10 mlynedd yn hyn na'r Gymraes.

Er mai Lauren Price yw'r ffefryn gyda'r bwcis mi fydd hi'n ymwybodol iawn o brofiad a gallu'r Americanes.

Bydd Cymru gyfan yn gobeithio y bydd Lauren yn gallu ymuno â Calzaghe, Wilde a Winstone ar restr anfarwolion bocsio'r genedl.

Pynciau Cysylltiedig