'San Steffan yn gwanhau cynllun dychwelyd poteli Cymru'

Peiriant dychwelyd poteli.Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Y syniad yw sicrhau bod mwy o boteli a chaniau yn cael eu hailgylchu

  • Cyhoeddwyd

Mae'r ysgrifennydd newid hinsawdd ym Mae Caerdydd wedi cyhuddo llywodraeth San Steffan o geisio gwanhau cynllun ailgylchu newydd ar gyfer poteli a chaniau.

Y bwriad yw cynnig arian neu dalebau i bobl pan maen nhw'n dychwelyd poteli gwag i'w hailgylchu.

Ond fe fydd yna oedi pellach cyn cyflwyno'r cynlluniau ar draws y DU - o 2025 i 2027.

Mae Llywodraeth Cymru am gynnwys poteli gwydr yn eu fersiwn nhw o'r cynllun, ond mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddai hynny'n ychwanegu "cymhlethdod diangen i'r diwydiant diodydd".

'Poteli gwydr yn drwm ac yn fregus'

Mae pob un o wledydd y DU wedi bod yn gweithio ar y cyd i geisio cytuno ar ffordd o weithredu'r syniad - a elwir yn gynllun dychwelyd ernes - ers blynyddoedd.

Cyhoeddodd gweinidog amgylchedd y DU, Robbie Moore, ddydd Iau na fyddai'r cynlluniau yn cael eu cyflwyno tan 2027 er mwyn rhoi mwy o amser i ddiwydiannau baratoi.

Roedd bwriad Llywodraeth Cymru i gynnwys gwydr yn un maes lle roedd 'na anghytuno, ychwanegodd.

Mae'r rhannau eraill o'r DU bellach wedi penderfynu cyfyngu eu cynlluniau i boteli plastig a chaniau dur ac alwminiwm.

Daw hyn yn dilyn ffrae ynglŷn a gobeithion llywodraeth yr Alban i gynnwys gwydr yn eu cynllun hwythau.

Mae hyn wedi ei atal gan Lywodraeth y DU wrth iddyn weithredu deddfwriaeth ôl-Brexit o Ddeddf y Farchnad Fewnol.

Byddai cynnwys gwydr yn creu problemau i'r diwydiant diodydd, ac yn cynyddu costau i siopau o ran delio a storio a photeli sy'n cael eu dychwelyd, medd llefarydd.

"Mae cynhwysyddion gwydr yn drwm ac yn fregus, gan eu gwneud nhw'n anoddach i gwsmeriaid eu dychwelyd a derbyn ad-daliad - gan gynyddu o bosib cost eu siopa," ychwanegodd.

Dywedodd Mr Moore y byddai trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn parhau ond "os na fydd eu safiad yn newid, fe fyddwn yn pwyslesio'r angen i warchod marchnad fewnol y DU".

Mynodd bod angen cysondeb yn y cynlluniau "er mwyn diogelu busnesau a chwsmeriaid".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru eisoes ymysg y gwledydd gorau yn y byd o ran lefelau ailgylchu

Disgrifio hynny fel "bygythiad" wnaeth ysgrifennydd newid hinsawdd Cymru, Huw Irranca-Davies, gan ddweud bod llywodraeth y DU yn bwriadu "cyfyngu ar ein gallu i fynd ymhellach" gan orfodi "cynllun dychwelyd ernes gwanach ar Gymru".

"Mae cyflwyno gwahanol gynlluniau sy'n ymateb i'r gwahanol gyd-destunau yn ein gwledydd yn amlwg yn ymarferol," meddai, gan ddadlau bod 'na enghreifftiau rhyngwladol o gynlluniau ailgylchu amrywiol o fewn i farchnad sengl.

Roedd ffigyrau ailgylchu uchel Cymru yn gosod y wlad "mewn sefyllfa wahanol" ac yn golygu bod angen "dull mwy uchelgeisiol".

Mewn ymateb dywedodd Richard Naisby, cadeirydd cymdeithas y bragwyr annibynnol (SIBA) bod angen sicrhau un cynllun ar draws y DU sy'n cael ei gyflwyno "gyda'r un rheolau ar yr un diwrnod".

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd busnesau bach yng Nghymru yn cael eu cosbi am fethiant gwleidyddol i gytuno ar yr un deunyddiau, gyda Chymru yr unig wlad i gynnwys gwydr."

Ond mae grwpiau amgylcheddol wedi annog eraill i ddilyn esiampl Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Keep Britain Tidy, Allison Ogden-Newton fod yr elusen "yn falch o weld Cymru yn edrych yn benderfynol o fwrw ati a'u cynllun 'gorau yn y dosbarth' - a ry'n ni'n annog gweddill y DU i wneud yr un fath".

Pynciau Cysylltiedig