Alun Michael: Gwadu ochri gyda'r heddlu yn ei rôl

Alun Michael
  • Cyhoeddwyd

Bydd y gwleidydd Alun Michael yn rhoi'r gorau i'w rôl fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru ddydd Mercher.

Wrth siarad ar raglen Bore Sul, fe wrthododd feirniadaeth ei fod wedi bod yn rhy agos i'r heddlu wrth ymgymryd â'i rôl.

Ei ddirprwy, Emma Woods, sydd wedi ei hethol i'w olynu.

Gydag ond 16.58% o'r boblogaeth wedi pleidleisio yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru ddydd Iau diwethaf, dywedodd nad "cwestiwn o ddiddordeb" oedd y rheswm, ond mai "diffyg gwybodaeth" yw'r broblem.

Dywedodd mai "cyfrifoldeb y Llywodraeth ydi o i roi gwybodaeth am y swydd".

Ond wrth i'w gyfnod yn y rôl ddirwyn i ben, dywedodd mai "anwiredd" yw'r feirniadaeth ei fod wedi bod yn rhy agos at yr heddlu yn hytrach na goruchwylio eu gwaith.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod Y Comisiwn Etholiadol wedi cynnal ymgyrch gyfathrebu genedlaethol yng Nghymru a Lloegr ar draws pob sianel i godi ymwybyddiaeth am yr etholiadau.

Y llu wedi 'deall a dysgu gwersi'

Fe gyfeiriodd at achosion o drais ym Mayhill, Abertawe (Mai 2021) ac yn Nhrelái (Mai 2023) gan ddweud fod yr "heddlu wedi deall a dysgu gwersi o be ddigwyddodd yn Abertawe" ac wedi ymateb yn "wahanol" erbyn achos Trelái.

"Dyna'r cwestiwn mawr, pan mae pethau yn mynd o'i le, ydi'r challenge yn cael ei rhoi gan y Comisiynydd i'r Prif Gwnstabl".

Ychwanegodd ei fod yn "teimlo'n hyderus iawn yn y ffordd yr ydym yn ymateb yn ne Cymru".

Dywedodd mai'r peth pwysicaf am y rôl yw'r "cydweithio gyda'r heddlu i gael cysylltiad gyda chymunedau".

Disgrifiad o’r llun,

Emma Wools a Jane Mudd yw Comisiynwyr Heddlu a Throsedd benywaidd cyntaf Cymru ers creu’r swyddi yn 2012

Emma Wools, dirprwy presennol Alun Michael, fydd yn ei olynu gan dderbyn 73,128 o bleidleisiau yn yr etholiad yr wythnos ddiwethaf.

Mae hi'n un o ddwy fenyw i gael eu hethol - Jane Mudd yw'r llall.

Ms Wools yw'r fenyw ddu gyntaf i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd.

Dywedodd Alun Michael ei fod yn "hyderus iawn o'r ffordd y bydd hi'n cymryd y swydd".

"Mae hi wedi gweithio fel dirprwy am saith mlynedd rŵan, yn alluog iawn a gyda syniad o beth i wneud gyda'r swydd".

25 mlynedd ers datganoli

Ddydd Mawrth, fydd hi'n 25 mlynedd ers cyfarfod cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, Senedd Cymru erbyn hyn.

Alun Michael oedd yn Brif Ysgrifennydd, fel roedd y teitl ar y pryd.

Wrth edrych yn ôl, fe ddisgrifiodd y cyfnod fel un "anodd iawn".

Aeth ymlaen i ddweud fod "pethau wedi eu sefydlu yn y ffordd wrong o'r dechrau, roedd y Senedd wedi ei sefydlu fel rhyw fath o Gyngor Sir mawr a ddim gwahaniaeth rhwng y Llywodraeth a'r Senedd, ond fe ddaru hwnna newid yn 2006 gyda newid yn y gyfraith i wahanu'r ddau".

Pynciau Cysylltiedig