Pryder am bobl anabl yn sgil cau pwll nofio Pontardawe

Betsan Gower Gallagher
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Betsan ei bod yn "teimlo bod teulu fi yn cael ein gwahaniaethu"

  • Cyhoeddwyd

Bydd cau pwll nofio Pontardawe yn niweidiol i iechyd a lles pobl ag anableddau, yn ôl mam sy'n defnyddio'r ganolfan bob wythnos gyda'i dwy ferch anabl.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cadarnhau y bydd y pwll yn cau ym mis Awst am resymau diogelwch.

Maen nhw'n dweud eu bod yn edrych y posibilrwydd o gael pwll nofio newydd i'r ardal.

Mae merched Betsan Gower Gallagher - Brielle a Bowan - wrth eu bodd yn defnyddio’r pwll nofio ym Mhontardawe.

Mae'r efeilliaid yn awtistig ac mae ganddyn nhw anghenion penodol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brielle a Bowan wrth eu bodd yn defnyddio’r pwll nofio ym Mhontardawe

Yn ôl Betsan, mae defnyddio'r pwll sydd wedi'i gynhesu yn helpu gyda'u hiechyd corfforol a meddyliol.

"Fan hyn fi'n gallu dod â nhw, maen nhw'n joio, mae pawb yn hollol gynhwysol a hollol gyfeillgar at fy mhlant i.

"Dwi jest yn joio dod â nhw. Mae popeth i blant ac oedolion anabl yma."

'Gwahaniaethu'

Yng Nghastell-nedd mae’r pwll nofio agosaf at y teulu, ond does gan y pwll ddim yr un cyfleusterau sy’n ei wneud yn addas i’r efeilliaid.

"Mae'n mynd i fod yn lot fwy prysur 'na. Bydd y plant yn fwy tebygol o gael meltdowns, mwy costus," meddai Betsan.

"So fi'n teimlo bod teulu fi yn cael ein gwahaniaethu."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd pwll nofio Pontardawe yn cau ym mis Awst am resymau diogelwch

Cafodd y pwll ei gau yn gyntaf yn 2012, ar ôl i’r cyngor ddarganfod diffygion yn ymwneud â’r concrit a’r strwythur.

Fe agorodd eto ym mis Ionawr y llynedd, ond erbyn hyn mae’r cyngor yn dweud bod yr adeilad yn rhy beryglus.

Mae’r cyngor hefyd wedi ymrwymo £30,000 ar gyfer astudiaeth a fydd yn edrych ar y posibilrwydd o ddarparu pwll newydd i’r ardal.

Ond fe allai hynny gostio rhwng £10m a £12m.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Nia Jenkins yn obeithiol y bydd modd cael pwll nofio newydd i'r ardal

Dywedodd Nia Jenkins, sy'n gynghorydd dros ardal Alltwen ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot: "Y broblem ar hyn o bryd yw cael yr arian i 'neud 'na.

"A gydag unrhyw bwll newydd bydd yn rhaid i ni gael arian wrth y Senedd neu San Steffan i fynd tuag at yr adeiladu.

"Ond maen nhw'n tueddu i ddweud y dylai pwll nofio fod o fewn rhyw 20 munud o'ch tŷ, a mae Castell-nedd jest rhy bell - dim ond jest dros yr 20 munud.

"So ni yn deall bod isie pwll nofio yma, a gyda'r faeasability study ni yn gobeithio bydd rhywbeth yn dod."

Pynciau Cysylltiedig