Tregaroc: Dathlu'r 10 a'r llwyddiant

Mwynhau'r ŵyl yn yr haul llyneddFfynhonnell y llun, Elen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mwynhau'r ŵyl yn yr haul llynedd - ac mae 'na ragolygon am dywydd ffafriol eleni hefyd

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Tregaroc ddathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed dywed y trefnwyr na fydden nhw wedi dychmygu’r fath lwyddiant wrth sefydlu’r ŵyl ddegawd yn ôl.

Pump o ferched ddechreuodd y digwyddiad yn Nhregaron nôl yn 2014 a hynny mewn cyfnod anodd i’r dref.

Erbyn heddiw mae wedi dod yn rhan bwysig o’r calendr i drigolion y dref a Cheredigion, gyda thocynnau i'r gig gyda'r nos eleni yn gwerthu allan mewn hanner awr.

Ffynhonnell y llun, Elen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tregaroc - sy'n digwydd eleni ar 18 Mai - wedi dod yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i Dregaron

Amser anodd yn 2014

Yn ôl un o sylfaenwyr yr ŵyl, sy’n un o’r chwech o ferched sy'n trefnu erbyn heddiw, fe ddaeth y criw at ei gilydd i geisio rhoi hwb i’r dref yn 2014.

Dywedodd Ffion Medi Lewis-Hughes ar raglen Ifan Jones Evans ar Radio Cymru: “Roedd hi’n amser anodd ar y pryd.

"Roedd yr ardal a’r dref ei hunan yn wynebu lot o doriadau, colli’r chweched, y llyfrgell ac ati felly roedd hi’n rili anodd ac o’n ni’n teimlo bod angen rhywbeth i ddenu pobl nôl i’r dref a'n bod ni’n rhoi Tregaron ar y map.

“Roedd ‘na gyfle i gael pobl i ddod i weld beth sydd yma ac i gefnogi’r economi lleol, rhoi hwb i’r economi.

"O fanna daeth y sbardun cynta’ - a hefyd cyfle i fwynhau'r holl gerddoriaeth Gymraeg arbennig sydd gyda ni yng Nghymru, a rhoi llwyfan i artistiaid ifanc newydd lleol.”

Ffynhonnell y llun, Tregaroc
Disgrifiad o’r llun,

Trefnwyr y Tregaroc yn 2014: (chwith i'r dde) Deina Hockenhull, Ffion Medi Lewis-Hughes, Rhian Jones, Fflur Lawlor a Mared Jones

Dros y blynyddoedd mae nifer o brif artistiaid Cymru wedi perfformio yn Tregaroc gan gynnwys Candelas, Yws Gwynedd, Eden, Elin Fflur, Dafydd Iwan, Cowbois Rhos Botwnnog a Tara Bandito.

Eleni, ar 18 Mai, enillydd Cân i Gymru 2024 a’r athrawes leol Sara Davies fydd yn agor yr ŵyl gyda pherfformiad ar y sgwâr o’i chân fuddugol Ti.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Morgan Elwy ymhlith yr artistiaid oedd yn chwarae yn yr ŵyl eleni

Eleni mae’r artistiaid yn cynnwys Mynediad am Ddim, Doreen Lewis a‘r Band, Huw Chiswell, Morgan Elwy a Ryland Teifi.

Mae'r adloniant rhwng 13:00-1900 am ddim ar y Sgwâr ac yn y Clwb Bowlio.

Fe gafodd holl docynnau’r gig gyda’r nos yn y Babell Fawr, lle fydd Ynys a Bwncath yn chwarae, eu gwerthu o fewn hanner awr iddyn nhw fynd ar werth fis Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Elen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Yws Gwynedd oedd un o'r prif artistiaid yn 2023

Yn ôl Ms Lewis-Hughes mae’r ŵyl wedi tyfu dros y blynyddoedd ac yn rhan bwysig o galendr yr ardal erbyn hyn.

Meddai: “Pan chi’n cynnal rhywbeth am y tro cyntaf mae pobl yn cwestiynu a rhai pobl sydd ddim yn deall, ac wedyn ar ôl y flwyddyn gynta’ a gweld fel na'th y dref drawsnewid gyda’r gerddoriaeth yma trwydde fe roedd e’n anhygoel ac mae pawb wedi dal y byg mas o’r peth.

“Mae pobl nawr yn dod 'nôl i Dregaron yn uniongyrchol adeg Tregaroc er mwyn cael eu haduniad ysgol neu aduniad o griw ffrindiau sydd wedi symud i ffwrdd.

"Ond o'n i byth yn dychmygu bydde’r ŵyl wedi tyfu fel mae e wedi ond ma' fe’n wir yn wych o beth i weld a ni’n ymfalchïo yn fawr yn y ffaith bod yr ŵyl fach yma yng nghanol Ceredigion wedi tyfu i fod yn rhywbeth mor mor boblogaidd ac yn un sy’n denu bandiau gwych.”

Ffynhonnell y llun, Elen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Martin Geraint yn diddanu'r plant yn Tregaroc 2023

Pynciau Cysylltiedig