Cau ysgol yng Nglynebwy wedi i 'ddisgybl gael ei fygwth'

Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr wedi cau ar ôl i ddisgybl gael ei fygwth

  • Cyhoeddwyd

Cafodd ysgol yng Nglynebwy ei chau yn rhannol fore Gwener ar ôl adroddiadau fod disgybl wedi cael ei fygwth.

Cafodd yr heddlu eu galw i Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr am 10:20 fore Gwener ar ôl honiad fod disgybl yn ei arddegau wedi derbyn negeseuon bygythiol.

Mae bachgen yn ei arddegau, sydd ddim yn ddisgybl yn yr ysgol, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wneud bygythiadau.

Ni chafodd y bachgen ei arestio ar dir yr ysgol ac nid oedd yn ardal Glyn Ebwy, yn ôl Heddlu Gwent.

Mae ymchwiliadau'r heddlu'n parhau, gyda swyddogion yn parhau ar y safle.

Cadarnhaodd yr heddlu amser cinio fod y disgyblion wedi cael caniatâd i adael os yw eu rheini yn eu nôl nhw.

Pynciau Cysylltiedig