'Dylai'r llywodraeth dalu cost newid polisi 20mya'

  • Cyhoeddwyd
Arwydd 20mya
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r polisi newydd wedi hollti barn ers iddo ddod i rym ar draws Cymru ym mis Medi

Llywodraeth Cymru ddylai dalu am unrhyw newidiadau i'r polisi 20mya, yn ôl arweinydd cyngor sir.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe awgrymodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth newydd, Ken Skates, efallai bod newid cyfeiriad i ddod.

Dywedodd y dylid targedu lleoliadau ble mae yna risg i blant a phobl oedrannus.

Yn ôl arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, mae "agwedd bragmatig" Mr Skates "i'w chroesawu".

Nod y polisi dadleuol, a ddaeth i rym ar draws Cymru ym mis Medi, oedd gwella diogelwch ffyrdd.

Fe gafodd y terfyn cyflymder ym mwyafrif y ffyrdd mewn ardaloedd adeiledig ei ostwng o 30mya i 20mya.

Tra bod ymgyrchwyr diogelwch ffordd wedi croesawu'r newid, mae eraill wedi ei feirniadu'n chwyrn ac mae dros 500,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw am ei ddileu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ken Skates ei benodi'n ysgrifennydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth yng nghabinet y prif weinidog newydd, Vaughan Gething, ym mis Mawrth

Mae disgwyl i Mr Skates roi mwy o fanylion sut y gellid adolygu'r polisi yn y Senedd ddydd Mawrth, ond mae eisoes wedi dweud wrth ASau y bydd yna newidiadau a bydd "llais cymunedau wrth galon popeth y gwnawn ni".

Ychwanegodd ei fod eisoes wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr cyngor.

Rhagweld 'arweiniad newydd'

Dywedodd y Cynghorydd Stewart, sydd hefyd yn ddirprwy arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wrth BBC Cymru ei fod, ar sail sgyrsiau'r arweinwyr cyngor gyda Mr Skates, yn rhagweld "arweiniad newydd" i'r awdurdodau lleol a fyddai'n eu caniatáu i adfer terfyn cyflymder ffyrdd penodol.

Mae Mr Stewart yn rhagweld y gallai hynny effeithio ar hyd at 10 o ffyrdd o fewn Sir Abertawe.

"Rwy'n meddwl bod Ken Skates ag agwedd bragmatig," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Rob Stewart yn rhagweld 'arweiniad newydd' i'r awdurdodau lleol

"Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un yn herio gofynion nag uchelgais y [polisi] 20 milltir yr awr i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel, ond mae'n ymwneud â sicrhau ein bod wedi cael y cydbwysedd yn gywir.

"Mae wnelo fe â bod yn bragmatig a'i wneud e mewn ffordd synhwyrol."

Mae yna gred bod cost gweithredu'r polisi o gwmpas £34m ac mae un cyngor wedi dweud wrth y BBC bod pob arwydd ffordd newydd yn costio tua £1,000.

Dywedodd Mr Stewart pe byddai arweiniad a meini prawf newydd yn achosi i gynghorau orfod newid arwyddion ffordd y dylai Llywodraeth Cymru "ein helpu gyda chost gwneud hynny".

Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn meddwl y bydde hynny'n syndod i ysgrifennydd [trafnidiaeth] y cabinet."

Terfynau 'afresymol'

Wrth ymateb i'r tro pedol rhannol posib, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn cefnogi'r egwyddor o gyflwyno parthau 20mya eang, ond ei bod hi'n glir bod y polisi wedi cael ei gyflwyno "mewn modd gwael ac anghyson".

"Mae terfyn 20mya wedi cael ei gyflwyno ar gormod o ffyrdd lle mae hynny'n teimlo'n afresymol," meddai.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fwrw 'mlaen nawr i ddatrys y mater - drwy weithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau i sicrhau bod terfynau yn cael eu hadolygu yn gywir, a bod terfynau afresymol yn cael eu dileu."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion trafnidiaeth, Natasha Ashgar, nad yw'r newidiadau posib yn mynd yn ddigon pell.

"Y Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid sydd wedi pleidleisio yn gyson yn erbyn polisi 20mya Llafur, sydd wedi effeithio ar 97% o ffyrdd oedd yn arfer bod yn 30mya.

"Mae'r Ceidwadwyr yn galw am ddileu'r polisi yma, ac ry'n ni eisoes wedi rhoi sawl cyfle i Lafur Cymru wneud hynny.

"Mae angen dod o hyd i ddatrysiad gwell, sy'n cael ei gefnogi gan bobl Cymru."

Pynciau Cysylltiedig