Tafarn eiconig y Vulcan wedi ailagor yn Sain Ffagan

Mae tafarn newydd, hynaf Caerdydd yn barod i groesawu ymwelwyr unwaith eto yn amgueddfa Sain Ffagan.

Cafodd y Vulcan ei gofrestru gyntaf fel "tŷ cwrw" yn 1853, yn Waunadda yng nghanol Caerdydd a hynny o fewn cymuned Wyddelig y brifddinas.

Mae'r adeilad wedi cael ei ail-leoli, a'i ailadeiladu, un fricsen ar y tro yn yr Amgueddfa Werin - dyma'r tro cyntaf i'r dafarn agor ers 2012.

Yn ystod ei hanes, fe welodd yr adeilad nifer o newidiadau arwyddocaol, wrth i Gaerdydd ddod yn ddinas amlwg yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.