Dyffryn Aman: Cyhuddo merch, 13, o geisio llofruddio

Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ysgol tua 11:20 ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 13 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ei bod yn wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio, a'i bod yn parhau yn y ddalfa.

Mae hi hefyd yn wynebu cyhuddiad o gael arf miniog yn ei meddiant ar dir ysgol, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Cafodd dau athro ac un disgybl eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu ar dir yr ysgol fore Mercher.

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau yn gynharach ddydd Iau bod y tri wedi cael gadael yr ysbyty ar ôl derbyn triniaeth am anafiadau a gafodd eu hachosi gan gyllell.

Yn y llys ddydd Gwener

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron y bydd y ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener.

"Mae hwn yn achos troseddol actif, ac mae gan y diffynnydd yr hawl i brawf teg," meddai eu datganiad.

“Mae’n hynod bwysig na ddylai fod unrhyw adrodd, sylw na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai achosi rhagfarn yn yr achos mewn unrhyw ffordd.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae BBC Cymru ar ddeall mai un o'r athrawon a gafodd ei hanafu yw Fiona Elias

Mae BBC Cymru yn deall mai Fiona Elias - pennaeth blwyddyn saith yr ysgol - a Liz Hopkin yw'r ddwy athrawes a gafodd eu hanafu.

Mae'r ysgol wedi cadarnhau y bydd y safle ar gau i ddisgyblion tan ddydd Llun.

Bachgen hefyd wedi'i arestio

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod hefyd wedi arestio bachgen 15 oed yn Rhydaman dros nos ar amheuaeth o wneud bygythiadau oedd yn cyfeirio at y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.

Fe ddaeth hynny wedi i bryderon gael eu rhannu gyda'r heddlu am ddeunydd oedd yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol.

Cafodd gwarant ei gweithredu yng nghartref y bachgen yn ardal Cross Hands, ac mae gwn BB bellach ym meddiant yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu fod yr ymchwiliad yn cael ei redeg ar wahân i'r digwyddiad yn yr ysgol, ond maen nhw'n ceisio cadarnhau a oes unrhyw gysylltiad posib rhwng y ddau.

Mae'r bachgen 15 oed yn parhau yn y ddalfa.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion tan ddydd Llun

Dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans: “Unwaith eto, byddwn yn annog pobl i beidio â dyfalu, i beidio â rhannu unrhyw ddelweddau na fideos yn ymwneud â’r naill ymchwiliad na’r llall, ac i ganiatáu i ni gynnal ein hymholiadau’n llawn.

“Os ydych chi, neu'ch plant, yn teimlo'n ofidus oherwydd y digwyddiadau hyn, ceisiwch gymorth gan asiantaeth briodol.

“Yn olaf, hoffwn ddiolch unwaith eto i’n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru am eu hymateb cyflym i’r digwyddiad, yn ogystal â staff y GIG fu'n trin y rhai a anafwyd, y sefydliadau elusennol sy’n cynnig cefnogaeth i'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad, a’r aelodau gwyliadwrus o’r cyhoedd a adroddodd eu pryderon i ni.”

Pynciau Cysylltiedig