Colli coes yn newid byd ac arwain at wobr gan y Brenin

Mark WilliamsFfynhonnell y llun, Mark Williams
  • Cyhoeddwyd

Newidiodd bywyd Mark Williams o’r Rhyl un diwrnod ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain ffordd wrth seiclo adref o’r ysgol. Roedd Mark yn 10 mlwydd oed.

Mae’r ddamwain wedi siapio ei fywyd a’i yrfa mewn nifer o ffyrdd ac wedi arwain Mark i sefydlu cwmni yn 2018 o'r enw LIMB-art sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig.

Mae ei waith wedi cael ei gymeradwyo gan y Brenin yn 2024 gyda’r cwmni yn ennill un o Wobrau’r Brenin am ei fenter.

Rhannodd Mark, sy’ hefyd wedi ennill gwobrau fel nofiwr Paralympaidd, ei stori ar Dros Frecwast ar Radio Cymru.

Ffynhonnell y llun, Mark Williams

Dechrau’r cwmni

Meddai Mark: “'Dan ni’n creu y gorchudd coolest yn y byd i amputees.

“Mae dipyn bach yn rhyfedd y ffordd ddaru’r cwmni ddechrau. Ddaru’r cwmni ddim dechrau fel cwmni, ddaru’r cwmni ddechrau fel rhywbeth i roi ateb i fi i fy body image i so o’n i’n neud gorchudd i fi i stopio trowsus rhag fflapio o gwmpas fy nghoes achos maen nhw fel stem heb orchudd.

“Ddaru llun fynd ar social media a ddaru amputee o Birmingham anfon neges i fi i ddweud, ‘lle dach chi 'di cael eich gorchudd?’ O’n i’n dweud, ‘dwi wedi neud o fy hun’. ‘Well can you make me one?’ Ac un nesaf ac un nesaf a dyna ddechrau’r stori.”

Roedd Mark yn angerddol am greu gorchuddion lliwgar fyddai’n rhoi cyfle i ddefnyddwyr prosthetig i ddangos eu steil unigol nhw felly fe gydweithiodd Mark a’i wraig Rachel gydag arbenigwyr i ddylunio a chreu gorchuddion LIMB-art.

Mae siâp y goes yn bwysig, yn ôl Mark: “Pan mae ganddoch chi goes gan yr NHS, fel polyn mae o. Ar y pryd o’n i’n fflio o gwmpas y byd i gwmni chemicals, pan 'dach chi’n gwisgo siwt a mae gyda chi goes fel 'na, os oes gwynt mae’n flappio fel flag pole.

“O’n i yn neud gorchudd jest i neud siâp i ddechrau. Wedyn o’n i’n peintio fo yr un lliw â vintage Land Rover fi i neud Land Rover themed leg a dyna’r llun oedd wedi mynd ar social media. Hwn oedd dechrau LIMB-art.”

Ffynhonnell y llun, Mark Williams

Y ddamwain

Mae Mark yn cofio’r diwrnod pan newidiodd ei fywyd am byth: “Ddaru fi golli 'nghoes yn 1982 yn dod adre o Ysgol Dewi Sant ar fy pedal bike. Ddaru car ddim gweld fi.

“O’n i’n mynd i mewn i Ysbyty Glan Clwyd a gyda’r nos ddaru’r surgeon ddod allan i weld Mam a Dad a dweud fod ganddo newyddion da a newyddion drwg. Y newyddion da oedd fod Prince William newydd gael ei eni a’r newyddion drwg oedd bo' nhw’n methu safio coes fi.

“O'n i’n meddwl ar y pryd, dyna ni - 10 mlwydd oed, un coes, does 'na ddim llawer o fywyd o'n mlaen i.”

Mae Mark yn cofio ei hun fel bachgen swil oedd yn methu nofio ond roedd y ddamwain yn gychwyn siwrne lle byddai Mark yn cystadlu fel nofiwr Paralympaidd wnaeth ennill medalau yn 1988 yn y Gemau Paralympaidd yn Seoul ac yn 1989 ym Mhencampwriaeth y Byd ym Miami.

Ffynhonnell y llun, Mark Williams

Meddai: “Heddiw faswn i’n gallu dweud, os fasech chi’n rhoi fi 'nôl yng nghanol ffordd faswn i’n aros yna achos dyna wnaeth wneud i fi ddechrau nofio a dechrau cystadlu dros y byd, o’n i’n nofio i Team UK, ennill Paralympics medals a World Championships ac wedyn yn mynd mewn i fusnes.”

Gwobr y Brenin

Mi fydd Mark yn teithio i Balas Buckingham ar Fai 21 2024 i dderbyn y wobr gan y Brenin: “Mae o’r gwobr mwya’ 'da chi’n gallu cael mewn busnes yn yr UK so mae o’n andros o glod i ni a’r tîm i gael gwobr y Brenin am innovation.”

Mae hefyd wedi cael gwahoddiad i barti ar 17 Gorffennaf yng Nghastell Windsor: “Edrych ymlaen i fynd lawr i Gastell Windsor i weld y Brenin ac i gael y sgwrs am y ffaith fod Prince William yn rhannu’r un diwrnod ag ampuversary fi.”

Ffynhonnell y llun, Mark Williams

Pynciau Cysylltiedig