Rhoddion ymgyrch Gething: 'Ni ddylai Llafur dderbyn yr arian'

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Vaughan Gething yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Ni fyddai’n iawn i Lafur gymryd arian sy'n weddill o'r rhoddion dadleuol i ymgyrch arweinyddol Vaughan Gething, meddai aelod o’i gabinet.

Derbyniodd Mr Gething arian gan gwmni sy’n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o waredu gwastraff yn anghyfreithlon.

Dywedodd Mick Antoniw os mai ef oedd yn penderfynu, yna na fyddai am i'r blaid dderbyn unrhyw arian gan Dauson Environmental Group (DEG).

Awgrymodd y cwnsler cyffredinol, sef cynghorydd cyfreithiol uchaf Llywodraeth Cymru, y gallai unrhyw arian gael ei roi i elusen yn lle hynny.

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dweud y byddai unrhyw arian ychwanegol yn mynd i Blaid Lafur y DU.

Nid yw'n glir ar hyn o bryd faint o arian sydd ar ôl o ymgyrch ddiweddar Mr Gething, a gododd fwy na £250,000.

Rhoddodd DEG £200,000 o'r swm hwnnw.

Mae Mr Gething wedi amddiffyn derbyn yr arian, gan fynnu ei fod wedi dilyn yr holl reolau.

£42,000 yn fwy

Yn y cyfamser mae wedi dod i'r amlwg bod Mr Gething wedi cael £42,000 yn fwy na'r hyn a adroddwyd yn flaenorol ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth aflwyddiannus gyntaf, yn 2018, gan yr un cwmni dadleuol.

Dywedodd y Comisiwn Etholiadol ei fod wedi gadael yr arian ychwanegol o'i gronfa ddata rhoddion mewn camgymeriad, a ddaeth i'r amlwg yr wythnos hon ar ôl ymholiadau gan BBC Cymru.

Roedd ei wefan wedi dangos yn flaenorol bod cwmnïau DEG wedi rhoi £38,000 i ymgyrch Vaughan Gething yn 2018, ond mae cyfrifon y cwmni o 2018-19 yn dangos ei fod wedi rhoi cyfanswm o £80,000.

Mae’r gronfa ddata sydd wedi’i diweddaru bellach yn dangos iddo godi cyfanswm o fwy na £112,000 y flwyddyn honno, gan gynnwys gan gwmnïau DEG Atlantic Recycling, Neal Soil Suppliers a Cardiff Demolition.

'Ddim yn briodol'

Wrth siarad gyda'r BBC am yr ornest fwy diweddar, dywedodd Mr Antoniw na fyddai wedi bod yn “hapus” i dderbyn yr arian gan Grŵp Amgylcheddol Dauson.

“Doeddwn i ddim yn ymgeisydd yn yr etholiadau penodol hynny. Byddwn wedi dewis cwrs gwahanol,” meddai.

O ran a ddylai Llafur gymryd yr arian, dywedodd: “Pe bai i fyny i mi yn unig, nid wyf yn meddwl y byddai'n briodol gwneud hynny.

“Mae’n fater i bwyllgor gwaith Cymru [y Blaid Lafur] ei ystyried a dwi’n meddwl ei fod hefyd yn fater i ystyried pa opsiynau amgen allai fod.

“Efallai ei fod yn rhywbeth y dylid ei roi i elusen neu opsiwn arall.”

O dan reolau’r Blaid Lafur byddai angen rhoi unrhyw arian dros ben o ymgyrch arweinyddiaeth Mr Gething i’r blaid.

Mae Llafur Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru o'r blaen mai hi, ac nid Llafur y DU, fyddai'n derbyn yr arian.

Ond mae’r Comisiwn Etholiadol wedi dweud y byddai’r arian yn mynd i’r Blaid Lafur ganolog.

Pynciau Cysylltiedig