Jonathan Davies i adael y Scarlets ddiwedd y tymor

Disgrifiad,

Jonathan Davies: 'Fi'n teimlo y galla i dal i chwarae'

  • Cyhoeddwyd

Mae canolwr Cymru Jonathan Davies wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Fe wnaeth y chwaraewr, sy’n hanu o ardal Bancyfelin yn Sir Gaerfyrddin, chwarae dros y rhanbarth am y tro cyntaf yn 2006.

Mae wedi chwarae 209 o gemau ers hynny, gan sgorio 55 o geisiau.

Mae hefyd wedi ennill 96 o gapiau dros ei wlad a chwech dros y Llewod

Er ei fod yn ffarwelio â'r rhanbarth, dyw Davies ddim yn barod i roi’r gorau i’r gêm yn llwyr, ac mae'n gobeithio symud i glwb arall cyn ymddeol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Davies wedi chwarae 209 o gemau i'r Scarlets

“Dwi 'di bod yn eithriadol o lwcus i gynrychioli’r tîm yma am amser maith a dwi 'di cael cymaint o brofiadau gwych," dywedodd.

"Wrth gwrs, mae'n mynd i fod yn rhyfedd ac yn anodd a dwi’n mynd i golli’r lle yn fawr - dyma’r tîm nes i gefnogi pan oeddwn i’n blentyn ifanc ac felly, yn syml, mae wedi bod yn freuddwyd."

Fe ychwanegodd Davies ei fod yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda’i deulu, ond mae'n barod am brofiad newydd.

“Dwi dal yn joio dod i ymarfer a phe bai yna gyfle yn dod, boed hynny dramor neu beidio, yna fydde hynny yn grêt," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn cael ei adnabod fel ‘Foxy’ wedi i'w rieni redeg tafarn y Fox and Hounds ym Mancyfelin am gyfnod, fe wnaeth Davies gynrychioli timoedd ieuenctid Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf cyn esgyn i academi’r Scarlets.

Ar ôl ennill ei gap cyntaf dros ei wlad ar daith i Ogledd America yn 2009, fe ddatblygodd dros amser i fod yn un o ganolwyr gorau’r byd.

Bu’n gapten ar ei wlad ar bedwar achlysur, fe gipiodd y Gamp Lawn ddwywaith, enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad bedair gwaith ac fe gynrychiolodd Cymru yng Nghwpan y Byd 2011 a 2019.

Ynghyd â’i gampau yng nghrys coch Cymru roedd yr un mor ddylanwadol yng nghrys coch y Llewod.

Roedd yn rhan allweddol o’r garfan enillodd y gyfres yn Awstralia yn 2013, ac yn Seland Newydd bedair blynedd yn ddiweddarach fe gafodd ei enwi fel chwaraewr gorau’r gyfres i’r ymwelwyr wrth i’r gyfres orffen yn gyfartal 1-1.

Ble nesa' i'r Cadno?

Dyw ymddeol ddim ar feddwl Davies eto, ac mae sawl opsiwn yn bosibilrwydd.

Mae eisoes wedi chwarae ar draws y sianel ar ôl treulio dau dymor â chlwb Clermont Auvergne, ond fe wnaeth y chwaraewr gyfaddef ei hun nad oedd y profiad hwnnw heb ei broblemau.

Mae 'na arian mawr i’w ennill yn Japan a hynny dros gyfnod byr, ond â theulu ifanc mae'n bosib nad dyma fyddai’r amser delfrydol i godi pac i’r Dwyrain Pell.

Mae Davies wedi sôn droeon y byddai symud ar draws yr Iwerydd a chwarae yn yr Unol Daleithiau yn apelio, ac o ystyried na fyddai cymaint o effaith ddiwylliannol na phroblemau ieithyddol, fyddai hyn ddim yn syndod.

Ble bynnag fydd Jonathan Davies y tymor nesaf, bydd hi’n rhyfedd o beth peidio ei weld yn troedio i’r maes yn y crys sgarlad ar ôl bron 18 o flynyddoedd.