Drakeford wedi 'ofni' na fyddai'r Senedd yn goroesi

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd popeth yn fregus" yn dilyn blwyddyn gyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, medd y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd

Chwarter canrif ar ôl iddi agor, mae Senedd Cymru ar fin cymryd cam mawr arall ar hyd taith datganoli.

Dydd Mercher, mae disgwyl i ddeddf gael ei phasio - fydd yn golygu bod nifer yr aelodau yn cynyddu o 60 i 96.

Ond yn y dyddiau cynnar doedd dim sicrwydd y byddai’r sefydliad yn gallu cyrraedd y pwynt yma, yn ôl y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford.

Mae e wedi bod yn ffigwr allweddol yng ngwleidyddiaeth Bae Caerdydd mwy neu lai ers y dechrau, ond ar ôl y flwyddyn sigledig gyntaf ym 1999 roedd e’n ofni, meddai, na fyddai’r Cynulliad yn goroesi.

Alun Michael, arweinydd Llafur Cymru ar y pryd, wnaeth agor cyfarfod cynta’r 60 aelod drwy ddweud: “Dyma ddiwrnod hanesyddol i bawb yng Nghymru.”

Lai na blwyddyn yn ddiweddarach, roedd yn rhaid iddo ymddiswyddo.

Aeth Mr Drakeford i weithio i Rhodri Morgan, olynydd Mr Michael, ac mae’n cofio cymaint o waith roedd angen ei wneud er mwyn sefydlogi’r lle.

“Mae’n anodd nawr i edrych yn ôl a meddwl fel ‘na, ond pan oeddwn i’n dod i weithio yn swyddfa Rhodri Morgan ym mis Mai 2000, ro'n i’n teimlo na allwch chi fod yn hyderus y byddai'r sefydliad yn parhau,” meddai Mr Drakeford.

“Roedd popeth mor fregus. Roedd pobl yn teimlo’n fregus achos roedden nhw wedi gweithio mor galed a doedd pethau ddim yn gweithio mas fel oedden nhw eisiau gweld.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn nyddiau cynnar y Cynulliad - Senedd Cymru erbyn hyn - roedd Mark Drakeford yn gweithio i Rhodri Morgan

Ond fe newidiodd pethau o fewn chwe mis, meddai Mr Drakeford, diolch i’r glymblaid a gafodd ei ffurfio rhwng Llafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ers hynny, mae maint y Cynulliad, neu’r Senedd fel yw hi nawr, wedi bod yn bwnc trafod.

Comisiynodd lywodraeth Mr Morgan adroddiad yr Arglwydd Richard, a nododd fod angen datganoli mwy o rym a chynyddu nifer yr aelodau.

Daeth y grym rai blynyddoedd yn ddiweddarach, ond mae hi wedi cymryd tan nawr iddyn nhw ychwanegu rhagor o aelodau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd David TC Davies ddim o blaid sefydlu'r Cynulliad

Addo adrefnu’r Senedd a chwyddo’i maint wnaeth Llafur a Phlaid Cymru yn eu maniffestos. Ond mae’r gost, y nifer benodol o aelodau ychwanegol a’r newid i’r drefn etholiadol yn poeni’r Ceidwadwyr.

Gallai ychwanegu 36 aelod yn yr etholiad nesaf yn 2026 gostio hyd at £17.8m y flwyddyn, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Dyw gwario cymaint pan fod gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau "ddim yn iawn", meddai David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru.

Ymgyrchodd Mr Davies yn erbyn creu’r Cynulliad, cyn cael ei ethol fel un o’i aelodau cyntaf.

'Bwysig parchu dewis y cyhoedd'

Mae Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod dan arweinyddiaeth Llafur o’r cychwyn, yn dweud bod datganoli wedi arwain at bolisïau fel ciniawau am ddim i blant ysgol gynradd, presgripsiynau am ddim i bawb a chyfradd uchel o sbwriel yn cael ei ailgylchu.

Ond mae ‘na ganran uwch o bobl yn aros am driniaeth ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru nag yn Lloegr, ac yn ôl Mr Davies, dyw’r economi heb gael ei drawsnewid fel roedd rhai o gefnogwyr datganoli yn ei obeithio.

Beth yw’r ateb felly? Troi’r cloc yn ôl a chau Senedd Cymru?

“Dwi ddim yn meddwl bod hynny’n deg neu yn bosib,” meddai Mr Davies.

“Mae’r cyhoedd wedi pleidleisio o blaid datganoli dwywaith wrth gwrs, nid jest yn y refferendwm cyntaf. Mae’n hynod o bwysig i barchu hynny.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Jones o'r farn bod nifer yr aelodau yn "annigonol" ar hyn o bryd

Ers y canlyniadau 'Ie' yn y ddau refferendwm, dyw canran y pleidleiswyr yn etholiadau’r Senedd erioed wedi codi yn uwch na 47%.

Yn etholiadau ysgytwol cynta’r Senedd, pan lwyddodd ei phlaid i drechu Llafur yn rhai o’i chadarnleoedd, fe symudodd Elin Jones o fod ar gyngor tref Aberystwyth i fod yn aelod Plaid Cymru dros Geredigion.

Nawr, fel y Llywydd, mae’n gobeithio gweld y Senedd yn tyfu i faint addas “o’r diwedd”.

Ond mae’n cyfaddef bod dal angen perswadio rhai.

“Dwi’n deall fod pobl ddim wedi cael eu hargyhoeddi gan nifer fwy o aelodau etholedig i’r lle yma,” meddai.

Ond gyda nifer yr aelodau Seneddol yn San Steffan yn crebachu ac ein haelodau o Senedd Ewrop wedi diflannu “mae ‘na le i feddwl, gan fod cymaint o bwerau wedi trosglwyddo erbyn hyn i’r Senedd hyn, bod e’n briodol fod y Senedd yma a’r nifer gywir," yn ôl Ms Jones.