'Pam fod fy nghorff yn rhoi fyny arna i?'

Disgrifiad,

Mae Angharad Rees wedi bod yn disgwyl blynyddoedd i ganfod atebion i'w phroblemau iechyd

  • Cyhoeddwyd

Ers blynyddoedd mae Angharad Rees yn brwydro i ganfod atebion i'w phroblemau iechyd, sydd wedi bod yn gwaethygu dros amser ac yn effeithio ar ansawdd ei bywyd.

Yn 44 oed ac wedi symud nôl i dŷ ei rhieni yn Llandegla, Sir Ddinbych, mae'n dweud iddi gael "fy mhasio o un adran ysbyty i'r llall" wrth geisio canfod atebion.

“Mae’r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn uffern," meddai.

"Dros flwyddyn a hanner yn ôl roeddwn yn gweithio llawn amser, yn gallu cerdded milltiroedd, allan gyda ffrindiau yn mwynhau bywyd.

"Ond yn anffodus dros y flwyddyn ddiwetha' dwi ddim wedi gallu gwneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Rees yn ceisio canfod atebion i'w phroblemau iechyd

Eisoes wedi derbyn diagnosis o lid briwiol y coluddyn a chyflwr hunanimiwnedd, yn gynharach eleni derbyniodd Angharad ddiagnosis o Syndrom Ehlers-Danlos.

Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar y cymalau, gan effeithio ar gymaint ag un ymhob 500 o bobl.

Mae'n gallu achosi gorsymudedd (hypermobility), problemau treulio a phoen yn y cymalau, yn ogystal â blinder eithafol.

Ond mae hi nawr yn y broses o geisio sicrhau ail farn feddygol ar ôl i'r diagnosis gael ei wyrdroi gan ei hysbyty lleol.

Yn ôl elusen Ehlers-Danlos Support, mae diffyg ymwybyddiaeth o'r gwahanol gyflyrau Ehlers-Danlos yn ei gwneud hi'n anodd i nifer o bobl sicrhau diagnosis a derbyn y gefnogaeth a'r driniaeth briodol.

'Fy mywyd wedi mynd ar ei wyneb'

Wrth ddechrau sylwi ar y symptomau dair blynedd yn ôl, mae Angharad yn dweud ei bod wedi dirywio dros amser.

“Fedrai’m sefyll am hir, dwi methu bwyta’n iawn ddim mwy, dydi’r oesophagus ddim yn gweithio fel oedd o, y bladder a’r bowel ddim yn gweithio fel oedd o a dydi’r egni ddim yno," meddai.

“Dwi ddim yn cysgu oherwydd poen, poen difrifol drosta i a mae fy mywyd wedi mynd reit ar ei wyneb.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Angharad yn hoff o gerdded, ond mae nawr yn ddibynnol ar faglau

Dywedodd ei bod wedi dechrau sylwi ar ei hiechyd yn dirywio, gan ddechrau gyda chur pen oedd yn gwaethygu dros amser ac yn ddigon i'w “llorio”.

Yn teimlo'r angen hefyd i fynd i’r tŷ bach hyd at 40 gwaith y dydd, daeth y problemau wedyn gyda’i llwnc a’i stumog.

Ar ôl bod yn yr ysbyty am gyfnod i gael ei bwydo drwy beipen, mae hi bellach yn ddibynnol ar ddiet hollol feddal.

Mae Angharad yn dweud bod ei hiechyd a'i symptomau yn gwaethygu ac mae'n benderfynol o geisio canfod atebion er mwyn derbyn y driniaeth briodol.

"Does dim esboniad o gwbl, neb yn gwrando, neb yn edrych fewn, neb yn rhoi yr holl bethau yma at ei gilydd," meddai.

"Pawb dim ond yn edrych ar un peth, a fi yn paffio a chwffio iddyn nhw weld hwn yn gyflwr cyffredinol.

"Mae’n rhaid bod 'na reswm pam fod yr holl bethau yma’n digwydd.

“Mae’r profiad wedi bod yn hunllefus dros ben.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Angharad ei bod wedi dechrau sylwi ar y symptomau dair blynedd yn ôl

Tra bod Angharad yn parhau i chwilio am atebion, yn ôl un elusen mae nifer wedi cael trafferth sicrhau diagnosis o Syndrom Ehlers-Danlos neu anhwylder sbectrwm gorsymudedd (Hypermobility Spectrum Disorder).

Mae'r rhan fwyaf o'r gwahanol fathau o Syndrom Ehlers-Danlos yn brin iawn, a gellir sicrhau diagnosis drwy brofion genetig.

Ond nid yw'r genynnau sy'n achosi Syndrom Ehlers-Danlos hypermobile - sef y ffurf fwyaf cyffredin ac sy'n gyfrifol am tua 90% o'r achosion - yn hysbys.

Oherwydd hyn mae sicrhau diagnosis yn seiliedig ar restr o symptomau.

Yn ôl Ehlers-Danlos Support UK, mae sawl un yn cael trafferth sicrhau diagnosis a thriniaeth briodol oherwydd bod "ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn wael ymysg gweithwyr meddygol".

Dywedodd Tasha Evans-Jones o'r elusen yng Nghymru: “Mae cymaint o'n haelodau yn ei chael yn anodd cael y diagnosis a’r gofal cywir ar gyfer eu cyflwr, ac yn aml yn gorfod edrych ar dalu’n breifat am ofal."

Ond maen nhw'n gobeithio bydd partneriaeth newydd gyda'r GIG yng Nghymru yn golygu gwell ymwybyddiaeth a thriniaeth ar gyfer y rheiny sy'n dioddef gyda symptomau o'r fath.

Pryderon am ddiffyg arbenigwyr

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Cyhyrysgerbydol "yn gweithio gydag EDS UK a Llwybrau Iechyd Cymunedol i ddatblygu llwybr y cytunwyd arno'n genedlaethol ar gyfer gorsymudedd ymhlith plant ac oedolion."

Ychwanegodd: "Bydd hyn yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gael sgyrsiau gwybodus gyda chleifion ac i ddarparu mynediad at y timau arbenigol cywir."

Ond mae pryderon o hyd nad oes arbenigwyr Ehlers-Danlos ar gael yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad wedi bod yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Maelor, Wrecsam

Mewn ymateb i hynny dywedodd Llywodraeth Cymru: “Bydd cleifion â Syndrom Ehlers-Danlos o dan ofal rhiwmatolegydd ac fel unrhyw un sy’n byw gyda chyflwr prin yn derbyn gofal amlddisgyblaethol o safon mor agos i’w cartrefi â phosib.

“Yn anffodus oherwydd natur anghyffredin cyflyrau, fel syndrom Ehlers-Danlos, nid yw arbenigwyr bob amser ar gael yng Nghymru.

"Pan na fydd cyngor arbenigol ar glefyd prin ar gael, bydd ymgynghorwyr yn cymryd cyngor ac yn ymgynghori ag arbenigwyr mewn mannau eraill.

"Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu cymaint o’r driniaeth â phosibl yng Nghymru i leihau’r angen i deithio, lle nad yw hyn yn bosibl, darperir triniaeth yn Lloegr.”

'Poen meddwl difrifol'

Dros gyfnod y Nadolig dywedodd Angharad iddi gael diagnosis o Syndrom Ehlers-Danlos gan yr adran gastroenteroleg yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Ond erbyn hyn mae'n parhau i chwilio am atebion wedi i'w diagnosis gael ei dynnu'n ôl gan adran wahanol yn yr un ysbyty.

Bellach mae'n gwthio am ail farn ac wedi codi cwyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

“Roedd o fatha rhyw lightbulb moment iddo fo [y meddyg], unwaith glywodd o’r gair hypermobile yna oedd o’n gallu rhoi bob dim arall oedd o wedi ei weld dros y misoedd diwetha’ at ei gilydd, a roth o’r diagnosis.

“Ond yn anffodus, oherwydd rhiwmatoleg sy’n edrych ar ôl y cyflwr yma, ges i fy ngalw fewn i weld y rhiwmatolegydd ac ar ôl asesiad o awr ddaru nhw dynnu’r diagnosis yna o’na.

“Mae hyn wedi bod yn boen meddwl difrifol i mi a rŵan dwi’n gweithio hefo fy meddyg teulu i gael yr ail opiniwn yna, achos mae’n bwysig i mi fod y diagnosis yn ei le."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad wedi symud nôl i dŷ ei rhieni yn Llandegla, Sir Ddinbych

Dywedodd Angharad ei fod yn bwysig iddi sicrhau diagnosis priodol er mwyn "arfer gyda fy mywyd newydd".

“Mae’n rhoi sicrhad i ti mai dyna sy’n bod gyda ti. Dyna sydd wedi bod yn mynd ymlaen dros y blynyddoedd achos does dim eglurhad arall pam fod fy nghorff yn rhoi fyny arna i.

"Mae’n dy effeithio yn seicolegol a mae 'na ryw ryddhad o wybod 'ie, dyna’r ateb', ond yn fwy na hynny dy fod yn cael y driniaeth gywir.

“Does ddim modd gwella rhywun hefo’r cyflwr ond mae modd managio’r symptomau.

"Ond heb y diagnosis yna, yr ofn ydy cha'i ddim gweld y ffisiotherapydd, occupational therapy a’r help seicolegol i arfer hefo fy mywyd newydd.

“Dwi methu gweithio - methu gweithio llawn amser yn sicr.

"Heb y diagnosis, yr ofn sydd gen i ydy ofn ariannol, hefo anabledd sydd ddim yn cael ei gydnabod.”

Mewn datganiad dywedodd Dr Nick Lyons, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Oherwydd cyfrinachedd cleifion, ni allwn wneud sylw manwl am y gofal a ddarparwyd i Ms Rees.

“Rydym mewn cysylltiad â Ms Rees a byddwn yn ymateb iddi yn uniongyrchol.”