Sgandal gwaed: Galw am 'ganllawiau clir' am iawndal

David Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth David Thomas ddarganfod fod ganddo hepatitis C yn 1993

  • Cyhoeddwyd

Mae un o'r 400 o bobl o Gymru sy’n ymwybodol eu bod wedi derbyn gwaed heintiedig, eisiau gweld canllawiau clir ar sut y bydd iawndal yn cael ei dalu i ddioddefwyr a'u teuluoedd.

Fe wnaeth David Thomas, sydd â hemoffilia, ddarganfod iddo gael ei heintio â hepatitis c yn 10 oed, 13 mlynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal gwaed heintiedig, Syr Brian Langstaff, y dylai dioddefwyr dderbyn “iawndal priodol”.

Mae disgwyl rhagor o fanylion ddydd Mawrth ar addewid Llywodraeth y DU i dalu “iawndal cynhwysfawr” i’r rhai sydd wedi’u heintio a’u teuluoedd.

'Croes i enaid yr adroddiad'

Fe wnaeth Mr Thomas ddarganfod fod ganddo hepatitis C yn 1993, dros ddegawd ar ôl iddo dderbyn gwaed heintiedig fel plentyn.

Mae bellach yn glir o’r afiechyd hynny, ond yn 2009 fe dderbyniodd y newyddion fod ganddo glefyd yr afu.

Dywedodd Mr Thomas wrth BBC Cymru yn 2017 bod hanes o hemoffilia o fewn ei deulu a bod ei gefnder, Lee, hefyd wedi’i heintio â hepatitis C yn blentyn.

Bu farw Lee o fethiant yr afu yn y pendraw.

Dywedodd Mr Thomas ei fod "am weld canllawiau clir ar sut y bydd iawndal yn cael ei rhannu ac a fydd yna brawf i benderfynu pwy sy’n derbyn iawndal".

Aeth ymlaen i ddweud mai'r "teimlad yw bod y llywodraeth am sefydlu bwrdd i fonitro’r iawndal ac mae’n mynd i fod yn anodd ceisio apelio yn erbyn unrhyw benderfyniadau’r bwrdd".

"Mi allai hynny fod yn groes i enaid adroddiad Syr Brian [Langstaff]."

Disgrifiad o’r llun,

Fe deithiodd teuluoedd a ffrindiau pobl fu farw i Lundain ddydd Llun ar ddiwrnod cyhoeddi'r adroddiad

Yn 2022, fe wnaeth adroddiad annibynnol gan Syr Robert Francis argymell y dylai iawndal gael ei dalu i ddioddefwyr, beth bynnag fo canfyddiadau’r ymchwiliad cyhoeddus.

Dywedodd Llywodraeth y DU ar y pryd eu bod yn derbyn yr achos foesol dros iawndal, gan roi £100,000 i 4,000 o bobl a gafodd eu heintio.

Yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun dywedodd Prif Weinidog y DU Rishi Sunak: “Byddwn yn talu iawndal cynhwysfawr i’r rhai sydd wedi’u heintio a’u teuluoedd oherwydd y sgandal yma, gan dderbyn yr egwyddorion a gafodd eu hargymell gan yr ymchwiliad sy’n adeiladu ar waith Syr Robert Francis.

“Beth bynnag yw’r gost i gyflawni hyn, fe fyddwn yn ei dalu.”

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw mab Tony Summers yn 44 oed ar ôl iddo gael HIV wedi iddo dderbyn gwaed heintiedig yn ei arddegau

Dywedodd Tony Summers, a gollodd ei fab yn 2008, ei fod eisiau gweld unrhyw iawndal yn mynd at weddw a merch ei fab.

Bu farw Paul Summers yn 44 oed ar ôl iddo gael HIV wedi iddo dderbyn gwaed heintiedig yn ei arddegau.

“Cyn belled ag y mae rhieni, brodyr a chwiorydd yn y cwestiwn, do’n i ddim yn ymwybodol bod iawndal wedi cael ei ystyried,” meddai Mr Summers.

"Fy mhrif bryder oedd darganfod pwy oedd ar fai, pwy achosodd y problemau a sicrhau nad yw unrhywbeth tebyg yn digwydd eto."

Dywedodd yr aelod cabinet dros iechyd, Eluned Morgan, y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau bod pobl o Gymru a’u teuluoedd yn cael eu had-dalu yn unol ag adroddiad interim yr ymchwiliad.

Pynciau Cysylltiedig