Neil Foden yn mynnu nad yw'n 'oedolyn sy'n cam-drin'

Neil FodenFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Neil Foden yn cael ei dywys i'r llys ar ddiwrnod cyntaf yr achos

  • Cyhoeddwyd

Mae pennaeth ysgol yng Ngwynedd, sydd wedi'i gyhuddo o gam-drin pum merch yn rhywiol, wedi dweud nad yw'n "oedolyn sy'n cam-drin" a'i fod wedi gwneud "camgymeriad difrifol".

Roedd Neil Foden, sy'n 66, yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.

Mae'n gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â phum plentyn.

Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys 13 o gyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd Mr Foden ei fod wedi gwneud "camgymeriad difrifol" drwy beidio sôn am luniau gafodd eu hanfon ato gan blentyn.

Wrth roi tystiolaeth ar ddiwrnod 13 o'r achos, gwadodd ei fod wedi meithrin perthynas amhriodol gyda'r plant dan sylw.

Awgrymodd yr erlynydd, John Philpotts bod 'na batrwm yn ymddygiad Mr Foden.

"Fe ddatblygodd pethau gam wrth gam... roeddech chi'n meithrin perthynas amhriodol gyda nhw," meddai wrth Mr Foden.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Foden yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

Dywedodd Mr Philpotts bod un ferch wedi chwilio ar y we am wybodaeth ynglŷn â'r arfer o feithrin perthynas amhriodol.

"Roedd hi'n ferch alluog ac roeddech chi'n meithrin perthynas amhriodol gyda hi, yn doeddech chi?" gofynnodd Mr Philpotts.

"Nag oeddwn," atebodd Mr Foden.

Cafodd ei holi am ei berthynas gyda merch sy'n cael ei chyfeirio ati fel Plentyn A ac am negeseuon testun gafodd eu hanfon ati yn hwyr yn y nos, gan gynnwys rhai oedd yn dweud ei fod yn ei charu hi.

"Dwi'n sicr ddim yn cymryd mantais o blentyn," mynnodd Mr Foden.

"Roedd y sylwadau wnes i i fod i roi cysur. Dwi ddim yn oedolyn sy'n cam-drin."

Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o Neil Foden yn ystod yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Cafodd y cyn-bennaeth ei holi am luniau gafodd eu hanfon ato gan Blentyn A oedd o natur rywiol.

Gofynnwyd iddo pam nad oedd wedi cysylltu gyda swyddogion amddiffyn plant yn yr awdurdod lleol i ddweud beth oedd wedi digwydd.

"Mi wnes i gamgymeriad difrifol," meddai.

Awgrymodd yr erlynydd John Philpotts fod Mr Foden wedi dileu lluniau anweddus o Blentyn A cyn iddo gael ei arestio.

Dywedodd Mr Philpotts: "Dyna pam y gwnaethoch chi ddileu'r lluniau. Roeddech chi'n gwybod fod y gêm ar ben yn doeddech?"

"Nag oeddwn," dywedodd Mr Foden.

Yn ddiweddarach fe ofynnwyd i Mr Foden a oedd yn meithrin perthynas â'r merched (grooming). "Na" oedd ei ateb.

Dywedodd Mr Philpotts fod Plentyn A wedi chwilio ar-lein am bethau fel "ges i fy ngham-drin yn rhywiol?".

"Roedd y plentyn yma wedi drysu am yr hyn roeddech chi'n ei wneud iddi, yn doedd hi?" meddai.

Dywedodd Mr Foden: "Wnaeth hi ddim dangos unrhyw arwyddion i mi ei bod hi wedi drysu neu'n ofnus.

"Yn wir, roedd hi i'r gwrthwyneb o hynny - dywedodd hi ar sawl achlysur ei bod hi'n teimlo'n ddiogel."

Dywedodd Mr Philpotts fod Mr Foden wedi gyrru neges at Blentyn A amdani'n rhoi pwysau ymlaen, a bod Mr Foden wedi dweud "Os wyt ti'n mynd yn fwy curvy, fydda i'n dy ffansio di hyd yn oed yn fwy".

Pan ofynnwyd i Mr Foden beth oedd yn ei olygu gyda'r neges honno, dywedodd: "Roedd hi i fod yn jôc - ei chanmol hi mewn modd ysgafn."

Gan orffen y croesholi, gofynnodd Mr Philpotts i Mr Foden a oedd yr achwynwyr yn dweud y gwir.

"Dydyn nhw ddim," atebodd Mr Foden.

Mae Mr Foden wedi pledio'n ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.

Pynciau Cysylltiedig