Carchar y Parc: Mam yn poeni am fwy o farwolaethau

Claire Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw mab Claire Jones ar ôl cymryd cyffuriau yng Ngharchar y Parc

  • Cyhoeddwyd

Mae mam carcharor a fu farw yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont yn poeni y bydd rhagor o farwolaethau os nad oes mwy yn cael ei wneud i atal cyffuriau yno.

Bu farw Ross Appleby, 29 oed o Gasnewydd, ar 18 Ionawr y llynedd.

Dywedodd ei fam Claire Jones ei bod hi wedi cael gwybod gan lywodraethwr y carchar fod ei mab wedi marw ar ôl cymryd canabis synthetig Spice.

Mae'r cwmni sy'n rhedeg y carchar, G4S, yn dweud bod marwolaeth Ross yn destun ymchwiliad gan yr Ombwdsmon Carchardai.

Dywedon nhw fod ganddynt strategaeth gynhwysfawr i atal cyffuriau yn y carchar, gan gynnwys gweithio gyda'r heddlu a gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ross Appleby ar 18 Ionawr y llynedd

Bu farw Wayne Hay, 47, yn y carchar ddydd Mawrth, ac ef oedd y seithfed carcharor i farw yno mewn ychydig dros ddeufis.

Mae'r heddlu'n dweud fod cyffur synthetig o'r enw Nitazene yn gysylltiedig â phedwar o'r marwolaethau hynny, a bod dau arall yn gysylltiedig â Spice - cyffur synthetig arall.

Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Ms Jones ei bod yn ofni ei bod yn rhy hawdd cael gafael ar gyffuriau yng Ngharchar y Parc, ac mae hi'n galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gymryd rheolaeth o'i redeg.

Cafodd ei mab Ross ei gadw yn y carchar yn 2022 ar ôl cael ei ddedfrydu i dair blynedd dan glo am droseddau'n ymwneud â chyffuriau.

"Mae'n drist clywed am y marwolaethau 'ma - dy'ch chi'n disgwyl y peth nawr," meddai Ms Jones.

"Dyw e ddim yn syndod mwyach - mae 'na fwy a mwy am fod.

"Mae e mor drist, ac rwy'n teimlo dros y teuluoedd - 'dw i'n gwybod beth maen nhw'n mynd trwyddo, gyda dim help go iawn gan y carchar.

"Rwy'n gwybod eu bod nhw yno am eu bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, ond maen nhw yno i wella, nid cael eu lladd, a dyna be' sy'n digwydd."

Spice 'wir yn bryder'

Dywedodd Ms Jones fod ei mab hefyd wedi cael ei drywanu ychydig fisoedd cyn iddo farw, ac mae'n honni na chafodd y gefnogaeth briodol ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd fod ei iechyd meddwl wedi dirywio a'i fod wedi dod yn ddibynnol ar gyffuriau ar ôl iddo gael ei drywanu.

Ychwanegodd Ms Jones ei bod yn bryderus am Spice yn y carchar.

"Mae Spice wir yn broblem, yn enwedig pan mae o wedi'i gymysgu," meddai.

"Mae e wir yn bryder. Mae angen gwasanaeth adfer rhag cyffuriau yn y carchar, oherwydd maen nhw'n gwybod fod e yno."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth mam Ross Appleby ei ddisgrifio fel "doniol" a "charedig"

Disgrifiodd ei mab fel dyn caredig a wnaeth “benderfyniadau anghywir”.

“Roedd e'n ddoniol, roedd ganddo hiwmor sych ac roedd e'n garedig.

"Roedd pobl yn eu hoffi, doedd e ddim yn hoff o ymladd ac roedd e'n dad.

"Doedd e ddim yn ddrwg. Fe wnaeth e rai dewisiadau anghywir ac fe aeth e i le drwg."

Dywedodd Ms Jones fod angen i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gymryd rheolaeth o'r carchar a bod teuluoedd yn cael eu methu.

“Faint mwy o deuluoedd fydd yn mynd trwy’r hyn rydyn ni’n mynd drwyddo?” meddai.

'Strategaeth gynhwysfawr'

Dywedodd G4S fod ganddyn nhw nifer o gynlluniau ar waith i helpu carcharorion gyda gwasanaethau cyffuriau a phroblemau iechyd meddwl.

“Iechyd a diogelwch carcharorion a staff yw ein prif flaenoriaeth," meddai llefarydd.

“Fel gyda phob carchar arall yn y wlad, mae gennym ni strategaeth gynhwysfawr i gael gwared â chyffuriau."