Jones: 'Agos y tro hwn - wna'i ennill yn y dyfodol'

Jak JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Jak Jones yn dweud y bydd yn ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd un diwrnod, ar ôl colli yn erbyn Kyren Wilson yn rownd derfynol y gystadleuaeth nos Lun.

Enillodd Wilson o 18 ffrâm i 14 yn Theatr y Crucible yn Sheffield.

Roedd Wilson 15-10 ar y blaen ar ddechrau sesiwn olaf yr ornest, cyn ymestyn y bwlch i 17-11.

Ond fe darodd y Cymro 30 oed o Gwmbrân - a oedd 7-0 ar ei hôl hi ar un adeg - yn ôl, gan ennill tair ffrâm yn olynol cyn i Wilson sicrhau'r bencampwriaeth.

'Gobaith at y dyfodol'

Jones yw'r chweched Cymro i gyrraedd y rownd derfynol, ac roedd hynny ynddo'i hun yn gamp i chwaraewr a oedd wedi dod trwy'r rowndiau rhagbrofol.

"Rwy'n deall bod o'n syndod i bawb ar draws y byd ond doedd e ddim yn llawer o syndod i mi," dywedodd wrth adran chwaraeon BBC Cymru.

"Rwy' wedi dysgu lot a gobeithio galla'i ennill e un diwrnod. Rwy' wastad wedi credu y gallwn i ennill e un diwrnod.

"Ddois i'n agos iawn y tro hwn. Wna'i ennill e yn y dyfodol.

"Rwy'n teimlo na wnes i chwarae ar fy ngorau yma... felly mae'r ffaith fy mod i'n gallu dod yma a dod mor agos at ennill yn rhoi ysgogiad i mi a gobaith at y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y tro cyntaf i Kyren Wilson ennill y bencampwriaeth, a dywedodd bod Jak Jones wedi gwneud pethau'n anodd iddo

Mae Jones yn cael £200,000 am gyrraedd y rownd derfynol ac mae wedi codi o safle 44 i 14 yn rhestr detholion y byd.

"Cyn y twrnament pe tasech chi wedi dweud y byddwn i'n darfod y tymor yn yr 16 uchaf bydden ni byth wedi eich credu," dywedodd.

"Mae hynny'n beth mawr i mi ac yn rhoi lot o hyder a gobeithio y galla' i adeiladu ar hynny."

Pynciau Cysylltiedig