Ymchwilio i farwolaeth dynes 'brydferth a doniol' ar draeth

Sian BatchelorFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd Sian yn berson prydferth, doniol a chariadus," meddai ei theulu

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r amgylchiadau arweiniodd at "farwolaeth annisgwyl" dynes 32 oed yn Sir Benfro.

Cafodd Sian Batchelor ei chanfod ar draeth yn ardal Pennar ger Doc Penfro am tua 17:00 ddydd Mawrth 30 Ebrill.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn trin y farwolaeth fel un "heb esboniad".

Dywedodd teulu Ms Batchelor mewn teyrnged eu bod wedi eu "syfrdanu" gan ei marwolaeth.

"Roedd Sian yn berson prydferth, doniol, cariadus. Byddwn yn trysori'r amseroedd da a gawsom gyda hi.

“Hoffem nawr gael amser i alaru a gofynnwn am breifatrwydd i wneud hynny.”

Pynciau Cysylltiedig