Caerdydd: Canfod corff wrth chwilio am ddyn ar goll o Dreganna

Connor Walker-SmithFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Connor Walker-Smith wedi cael ei weld ddiwethaf ar 17 Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn oedd ar goll o ardal Treganna yng Nghaerdydd.

Roedd Connor Walker-Smith wedi cael ei weld ddiwethaf ar Heol Penfro am 02:00 ar 17 Ebrill.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi dod o hyd i gorff yn Afon Taf yn ardal Grangetown y brifddinas.

Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond mae teulu Mr Walker-Smith wedi cael gwybod am y datblygiad.

Dywedodd y llu bod eu hymholiadau yn parhau.

Pynciau Cysylltiedig