Arestio llanc wedi bygythiadau â gwn yn Rhydaman

  • Cyhoeddwyd
heddluFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bachgen ei arestio yn oriau mân fore Iau

Mae llanc yn ei arddegau wedi cael ei arestio yn Sir Gaerfyrddin ar amheuaeth o wneud bygythiadau oedd yn cyfeirio at y digwyddiad treisgar yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd gwarant ei gweithredu yng nghartref y bachgen yn ardal Cross Hands, yn dilyn adroddiadau bod negeseuon bygythiol yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys bod y llanc wedi cael ei arestio fore Iau, a bod gwn BB bellach ym meddiant swyddogion.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans eu bod nhw'n ymchwilio i unrhyw gysylltiad posib gyda'r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher.

'Ymateb yn sydyn'

"Hoffwn ddiolch i'r rhai hynny wnaeth rannu eu pryderon ynglŷn â'r negeseuon oedd yn cael eu rhannu ar-lein," meddai.

"Fe wnaeth hyn ein galluogi i ymateb yn sydyn wrth weithredu gwarant ac arestio unigolyn.

"Er nad yw'r ymchwiliad yma'n rhan o'r ymholiadau i'r digwyddiad difrifol yn Ysgol dyffryn Aman, mae ein swyddogion yn ceisio deall pa mor ddifrifol oedd y bygythiadau hyn, ac a oedd yna unrhyw gysylltiadau gyda'r troseddau honedig.

"Ry'n ni'n galw ar bobl i beidio â rhannu sïon, lluniau neu fideos sydd â chysylltiad â'r achosion hyn ar-lein, gan roi cyfle i ni gynnal ein hymholiadau yn llawn."

Pynciau Cysylltiedig