Helpu pobl i arafu o brysurdeb bywyd drwy gelf

Glyn PriceFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yr artist Glyn Price o flaen un o'i dirluniau

  • Cyhoeddwyd

Mae artist o Wynedd wedi creu llyfr celf i helpu pobl i gamu yn ôl o’u bywydau prysur a byd 24/7 y cyfryngau cymdeithasol.

Ac mae Glyn Price wedi cyfuno ei fagwraeth yn harddwch Eryri, ei gefndir celf a’i brofiad o weithio gyda phobl ifanc i greu’r ‘llyfr llesiant’.

A’i obaith ydi y bydd yn helpu pobl o bob oed i werthfawrogi’r hyn sydd ar eu stepen drws.

Ffynhonnell y llun, Glyn Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyn Price yn ceisio cyfleu llonyddwch yn ei luniau, fel yr un yma o Lyn Padarn a'r Wyddfa

“Ers y cyfnod clo ac adeg cofid ro’n i’n sylweddoli pa mor anodd mae pethau wedi bod i bobl a ro’n i isho creu rhywbeth a rhoi cyfle i bobl fyfyrio ac adlewyrchu ac arafu a meddwl lle maen nhw arni efo bywyd,” eglurodd Glyn ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru (5 Mai, 2024).

Un o Gwm-y-glo yn Nyffryn Peris ydi Glyn yn wreiddiol ond bellach yn byw gyda’i wraig a’u plentyn yng Nghaernarfon.

A gydag Eryri mor agos does ryfedd bod y golygfeydd a’r ardal wedi bod yn bwysig iddo dros y blynyddoedd ac wedi arwain at ei waith fel artist tirluniau.

Meddai: “Mae gen i lot o ddiddordeb yn y golau, yn y siapiau, yn y tirlun. Dwi wedi cael fy magu yn Cwm-y-Glo a ro’n i’n cerdded lot i Clegir, a Llanberis a dwi wedi bod yn sbïo ar y mynyddoedd a’r chwareli a sbïo ar yr hanes yma i gyd. Dwi’n teimlo bod hwnna yn rhan ohono i - bod fi yn rhan o’r tir a’r tir yn rhan ohono i."

Diddordeb mewn celf ers ysgol

Mae’n dweud ei fod wedi bod yn ffodus o gael prifathro ysgol gynradd wnaeth annog ei ddiddordeb mewn celf - a bod hynny wedi cario mlaen yn yr ysgol uwchradd.

Aeth yn ei flaen i astudio cwrs sylfaen celf yng Ngholeg Menai Bangor ac yna gradd mewn celf ym Mhrifysgol Caerloyw. Dros y blynyddoedd mae wedi defnyddio celf wrth weithio gyda phobl ifanc tra'n gwneud gwaith 1-1 ac ar brosiectau gyda mudiadau fel GISDA a Chwmni Fran Wen.

Mae hefyd wedi parhau i beintio tirluniau ac roedd yn gam naturiol iddo gyfuno’r ddwy ran o’i fywyd ar gyfer y llyfr Golau Arall.

Mae’n cynnwys ei luniau a geiriau positif i annog myfyrdod.

Ffynhonnell y llun, Glyn Price
Disgrifiad o’r llun,

Golau'r Eifl, gan Glyn Price

“Dwi’n meddwl bod o’n bwysig bod fi’n rhoi rhywbeth lawr mewn llyfr - a bod pobl eraill yn cael dealltwriaeth o ba mor bwysig ydi mwynau be’ sydd ar ein stepan drws a bod yn ddiolchgar a mwynhau be' sgeno ni yn barod,” meddai.

“Dwi’n teimlo yn y byd ‘da ni ynddi heddiw 'ma efo’r cyfryngau cymdeithasol, mae bob dim yn instant ac yn sydyn. ‘Da ni’n rhoi like ar rwbath, mae o wedi mynd - a 'da ni’n anghofio amdano fo.

"Ond efo llyfr fel hyn mae o yna i rywun jest tawelu, bod yn ddistaw, arafu, sbïo ar y llyfr, sbïo ar y lluniau… cael be' maen nhw isho allan o’r lluniau a hefyd y geiriau wrth gwrs. Mae’n gyfuniad o’r ddau a gobeithio neith o helpu unigolion.”

Annog pobl ifanc i ddarllen

Mae Glyn hefyd yn gobeithio fydd y llyfr yn cael effaith ar bobl sydd ddim fel arfer yn darllen Cymraeg:

“Gobeithio neith o ennyn diddordeb mewn pobl ifanc i ddarllen mwy - falle rhai sydd ddim mor gryf yn darllen. Gobeithio fydd pobl ddim yn ei ofn o, a wnawn nhw bigo fo fyny a gobeithio neith o helpu rhywun yn rhywle.”

Fe fydd arddangosfa o’r gwaith yn Oriel Plas Glyn y Weddw rhwng 12 Mai a 7 Gorffennaf.