Gostyngiad 5% yng nghyllid pob comisiynydd yng Nghymru

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Efa Gruffudd Jones bod "unrhyw arbedion sydd angen eu gwneud yn golygu ystyried ein strwythur staffio"

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn wynebu colli staff yn sgil toriad o 5% yn eu cyllideb gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r swyddfa, medd y comisiynydd Efa Gruffudd Jones, "wedi cychwyn ar broses allai gynnwys sawl cam gan gynnwys cynnig cynllun ymadael gwirfoddol".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd o leihau cyllidebau pob comisiynydd 5%".

Golyga hynny bod y toriad yn effeithio hefyd ar swyddfeydd Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Comisiynydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru / Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Helena Herklots a Rocio Cifuentes - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a'r Comisiynydd Plant presennol

Dywedodd Efa Gruffudd Jones: "Fel sefydliad cyhoeddus rydym yn awyddus i wneud y defnydd gorau a mwyaf effeithiol o'r adnoddau sydd gennym.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf fe wnaethom adnabod arbedion sylweddol drwy ail edrych ar gostau swyddfeydd ac adleoli er mwyn sicrhau na fyddai ein gwaith craidd yn cael ei effeithio wrth i gostau gynyddu.

"Yn sgil toriad o 5% yn ein cyllideb eleni, wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae unrhyw arbedion sydd angen eu gwneud yn golygu ystyried ein strwythur staffio.

"Rydym wedi cychwyn ar broses allai gynnwys sawl cam gan gynnwys cynnig cynllun ymadael gwirfoddol ac rydym yn ymgynghori gyda staff ac undebau wrth fynd drwy'r camau hynny."

'Arbedion mewn nifer o feysydd'

Dywedodd y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots: "Fel pob corff cyhoeddus, rydw i wedi wynebu toriadau i fy nghyllideb sydd wedi creu pwysau ariannol.

"Mae hyn wedi golygu bod angen i mi wneud arbedion mewn nifer o feysydd, gan gynnwys lleihau costau sy'n ymwneud â staff."

Fe gadarnhaodd ei swyddfa bod dau aelod o dîm y Comisiynydd wedi gadael ym mis Mawrth dan gynllun ymadael gwirfoddol.

Dywedodd y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker: "Yn wyneb heriau ariannu i'r sector cyhoeddus, mae ein tîm wedi cymryd camau i addasu i ostyngiad mewn cyllid, o symud i fan gweithio a rennir, i ailstrwythuro staff.

"Yn anffodus, roedd yr ailstrwythuro'n cynnwys diswyddiadau, a oedd yn broses anodd i'n tîm a dull a ddefnyddir yn anfoddog.”

Ychwanegodd y Comisiynydd Plant Rocio Cifuentes: "Mae heriau ariannol ar draws y sector cyhoeddus, ac nid yw ein swyddfa yn imiwn i'r heriau hynny.

"Er ein bod wedi rhoi saib ar recriwtio, rydyn ni'n ymrwymedig i gyflawni amcanion ein cynllun gwaith, gan graffu ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus, a hyrwyddo ac amddiffyn hawliau plant yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Derek Walker yw'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae agenda cyni Llywodraeth y DU yn golygu bod yna bwysau sylweddol ar ein holl gyllidebau, ac rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yr ydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw, fel y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau gofal, ac ysgolion.

“Mae cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith yn darged yr ydym yn ei chymryd o ddifri, ac rydyn ni wedi gweithio’n galed i gyfyngu’r effaith ar y Gymraeg, gan gynnal y cyllid sydd ar gael i addysg statudol Gymraeg a’r blynyddoedd cynnar.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi gwaith a chyfraniad ein comisiynwyr. Yn anffodus, oherwydd yr heriau ariannol, rydyn ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd o leihau cyllidebau pob comisiynydd 5%.

“Mae’r comisiynwyr yn endidau annibynnol, a mater iddyn nhw yw pennu eu blaenoriaethau, rheoli eu cyllidebau, a gwneud penderfyniadau staffio.”