Gething: Dim cwestiynau 'dilys' yn sgil y rhoddion

Vaughan Gething
  • Cyhoeddwyd

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud nad oes cwestiynau “dilys” ynglŷn â’i gymeriad na’i ymddygiad yn sgil y ffrae am y rhodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth.

Fe dderbyniodd Vaughan Gething y rhodd ariannol gan gwmni dyn sydd wedi ei gael yn euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.

Mae Mr Gething yn mynnu bod y rhoddion wedi eu datgan yn gywir ac o fewn y rheolau.

Mae Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod Seneddol Llafur wedi galw am ymchwiliad annibynnol i'r mater.

Wrth gael ei holi gan Bwyllgor Craffu Senedd Cymru ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi bod yn “onest drwy gydol yr amser ynglŷn â’r hyn yr ydw i wedi ei wneud".

Dywedodd Vaughan Gething hefyd bod angen trafod y “realiti” bod ymgyrchoedd gwleidyddol yn gostus.

“Os nad ydych chi’n mynd i gael y wladwriaeth i ariannu pleidiau ac ymgyrchoedd, sut y’ch chi’n mynd i godi arian?

“Sut mae gwneud hynny felly yw dilyn y rheolau, a datgan beth ydych chi’n mynd i’w wneud a datgan yn glir bod eich sefyllfa chi fel ymgeisydd ddim wedi ei gyfaddawdu gan y ffynonellau ariannol amrywiol sydd wedi cael eu datgan.”

Roedd Mr Gething yn ymateb i Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, Llyr Gruffydd, oedd yn dweud bod cwestiynau ynglŷn â’i grebwyll wrth dderbyn yr arian yn y lle cyntaf.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi “dilyn yr holl reolau sydd angen i fi eu dilyn".

Dywedodd yr Aelod Ceidwadol, James Evans mai swydd Vaughan Gething yw "rhoi hyder i'r cyhoedd, a fydd yn gwylio heddiw, bod y feirniadaeth yn iawn, a dy fod yn gwneud penderfyniadau er lles Cymru ac nid er mwyn dod yn brif weinidog Cymru".

Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog fod ei lywodraeth yn ffocysu ar eu blaenoriaethau gan gynnwys yr argyfwng costau byw, treth i bobl dosbarth gweithiol a'r gwasanaeth iechyd.