Article: published on 20 Mai 2024

Tudur Owen

Ateb y Galw: Tudur Owen

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n 10 mlynedd ers i'r Ateb y Galw cyntaf gael ei gyhoeddi, a'r comediwr a'r cyflwynydd Tudur Owen oedd y cyntaf i wneud.

Dros y ddegawd ddiwetha' mae gyrfa Tudur wedi mynd o nerth i nerth, ac mae'n un o brif gomediwyr Cymru yn serennu ar y llwyfan a sgrin yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Felly, gyda Cymru Fyw'n dathlu 10 mlwyddiant dyma ni'n ailymweld efo Tudur i gael gweld os yw ei atebion wedi newid.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Disgyn ar fy ngwyneb tra ar lan y môr a meddwl fod tywod yn fy ngheg yn deimlad annifyr iawn.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Copa Mynydd Elidir. Dwi’n gallu gweld cynefin hynafol fy holl deulu o fanno.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Nes i fwynhau fy gig cyntaf stand up yn 1999 gymaint, ‘dwi ’di bod yn ceisio ei ail greu ers hynny. (Ddim cweit wedi llwyddo erioed).

Disgrifiad o’r llun,

Llun o Tudur ar gyfer ei raglen 'United Nations of Anglesey' ar Radio 4

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Afrealistig, gwladgarwr, trwm.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy’ o hyd yn gwneud i ti wenu?

Pob atgof o fy mhlant pan yn fach.

Beth oedd y digwyddiad wnaeth godi mwya' o gywilydd arnat ti?

Cael fy mherswadio i wneud clyweliad am ran mewn drama Shakespeare, oedd o mor ofnadwy dwi’n sgrechian bob tro dwi’n ei gofio.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pob nos bron iawn, wrth wylio erchyllterau’r gyflafan yn Gaza.

Disgrifiad o’r llun,

Aeth Tudur ar 'daith drymio' yn 2022 - yma mae'n perfformio gyda'r Candelas yn Sesiwn Fawr Dolgellau

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Edrych gormod ar fy ffôn, gwastraffu amser prin a rhegi heb fod angen.

Beth yw dy hoff lyfr? Pam?

Mae o’n newid yn aml ond mae Un Nos Ola Leuad wedi aros hefo fi ers fy arddegau felly hwnnw.

Byw neu farw, gyda pwy fyddet ti’n cael diod?

Owain Glyndŵr, Freddie Mercury a Mam.

Rhanna rhywbeth does dim llawer o bobl yn gwybod amdana ti.

Dwi’n swil.

Disgrifiad o’r llun,

Tudur yn y Tourist Trap, cynhyrchiad BBC Cymru

Beth fyddet ti’n neud ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned?

Recordio cyfarwyddiadau i fy nheulu yn esbonio lle dwi’n cadw petha’, yfed gwin coch a deud wrth pobol ‘mod i’n eu caru nhw.

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Mae gynnai lun da o gynulleidfa yn chwerthin. Mae o’n f’atgoffa ’na un job sydd gynnai.

Petaet ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai?

Brenin Lloegr. Faswn i’n diddymu’r teulu brenhinol a rhoi fy holl gyfoeth i elusennau.

Pynciau Cysylltiedig