Pryder am 100 o swyddi mewn ffatri yn Nhreherbert

Ffatri EverestFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae 96 o bobl yn cael eu cyflogi yn ffatri Everest yn Nhreherbert, yn ôl undeb GMB

  • Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru ar ddeall bod dyfodol mwy na 100 o swyddi yn y fantol mewn ffatri yn Rhondda Cynon Taf sy'n cynhyrchu ffenestri a drysau.

Yn ôl undeb GMB, cafodd staff Everest wybod ddydd Llun fod y cwmni wedi methu a dod o hyd i berchnogion newydd, a'u bod wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae'r undeb yn dweud bod 96 o bobl yn cael eu cyflogi yn ffatri'r cwmni yn Nhreherbert, a saith yn rhagor mewn swyddfa yn Llantrisant.

Mae Everest a'r gweinyddwyr wedi derbyn cais am ymateb.

Fe sefydlwyd y cwmni yn wreiddiol bron i 60 mlynedd yn ôl gan gynhyrchu nwyddau mewn sawl safle ar hyd Prydain, ac ym 1972 fe sefydlwyd y ffatri yn Nhreherbert.

Erbyn hyn mae’r ffatri yn canolbwyntio ar gynhyrchu nwyddau uPVC ac alwminiwm.

Mewn datganiad ar eu gwefan, mae Everest yn dweud eu bod nhw'n "ymfalchïo yn y gymuned glos y maen nhw wedi bod yn rhan ohoni dros y blynyddoedd".

Gweithlu 'wedi eu bradychu'

Dywedodd Gareth Morgans o undeb GMB bod y gweithlu yn "teimlo'n ddigalon, ac wedi eu bradychu".

"Maen nhw wedi eu siomi yn aruthrol. Dim ond 2020 oedd hi pan aethon nhw i ddwylo’r gweinyddwyr ddiwethaf, a bod Everest 2020 wedi dod yn gyfrifol am y cwmni.

"Roedd y gweithwyr yn meddwl ei fod yn ddechrau newydd, yn orwel newydd, ond mae wedi digwydd eto, ac y tro hwn, heb unrhyw brynwr yn cymryd drosodd.

"Mae 'na bobl yna sydd wedi gweithio yno am ddwy flynedd, rhai eraill am hanner canrif, ac maen nhw gyd wedi cael eu taflu i'r neilltu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr AS dros y Rhondda, Chris Bryant, fod y cyhoeddiad yn "ergyd enfawr" i'r ardal

Mewn cyfweliad â'r BBC fore Mawrth, dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Chris Bryant, fod y cyhoeddiad yn "ergyd enfawr i'r ardal".

"Does dim llawer o gwmnïau cynhyrchu mawr yma, ac er nad yw 100 o swyddi o bosib yn swnio fel cyflogwr mawr, mae'n gyflogwr mawr iawn yng nghyd-destun y Rhondda."

Cafodd y gweinyddwyr, ReSolve Advisory Limited, eu penodi ar gyfer cwmni Everest 2020 Limited ar 24 Ebrill.

Yn ôl ffynonellau, mae’r gweinyddwyr yn ceisio dod o hyd i brynwr ar gyfer Everest er mwyn arbed cymaint â phosibl o tua 350 o swyddi drwy Brydain.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "cefnogi'r gweithlu yn y gorffennol" a'u bod nawr yn canolbwyntio ar sicrhau cyflogaeth arall iddynt yn lleol.

Pynciau Cysylltiedig