18,000 litr o ddŵr i geisio llenwi pwll nofio
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru wedi anfon 18,000 litr o ddŵr i helpu gyda'r gwaith o geisio llenwi pwll nofio Castell Newydd Emlyn.
Dim ond mymryn o ddŵr sydd yn y pwll 25m Castell Newydd Emlyn oherwydd pwysedd dŵr isel.
Mae'r grŵp sy'n gyfrifol am y pwll wedi diolch i Dŵr Cymru am ddod i'r safle nos Sul ac yn "gobeithio y byddan nhw'n anfon rhagor o danceri er mwyn i ni fedru agor y pwll mor fuan â phosib".
Mewn datganiad dywedodd y pwyllgor: "Yn anffodus allwn ni ddim cadarnhau pryd bydd modd agor y pwll."
Mae’r grŵp hefyd yn apelio ar gyfryngau cymdeithasol i fusnesau sydd â thanceri i helpu i gael dŵr i mewn i’r pwll.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn ymchwilio i achos y pwysedd dŵr isel.
'Effaith andwyol'
Oherwydd y pwysedd dŵr isel, does dim modd i'r ganolfan ail ddechrau sesiynau nofio wythnosol i'r ysgolion lleol.
Roedd y pwll i fod i ddarparu gwersi nofio ychwanegol gan fod pwll cyfagos Aberteifi wedi gau.
Dywedodd Jo Jones sydd ar bwyllgor y pwll: “Mae hyn yn cael effaith andwyol arnom ni.
"Rydym yn goroesi ar yr arian ar gyfer gwersi nofio.
"'Da ni'n gobeithio y bydd y sefyllfa yn gwella neu byddwn yn cael caniatâd i ddefnyddio'r hydrant tu allan - ond ar hyn o bryd mae rhaid i ni ddibynnu ar ddiferyn bach."
Dywedodd Dŵr Cymru: “Rydym yn ymchwilio i’r rheswm dros y pwysedd dŵr isel sy’n effeithio ar bwll cymunedol Castell Newydd Emlyn a hoffem ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd."
Ychwanegodd Dŵr Cymru bod eu "timau’n gweithio’n galed i weld beth ydi'r broblem er mwyn cael y pwll yn ôl yn agored."