Hiliaeth wrth wraidd ymosodiadau, yn ôl cefnogwyr Gething

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffynhonnell wedi dweud wrth BBC Cymru bod grŵp Llafur yn y Senedd yn dal yn "rhanedig"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r BBC ar ddeall fod cefnogwyr y Prif Weinidog yn y Senedd wedi awgrymu mai "hiliaeth" sydd wrth wraidd yr "ymosodiadau gwleidyddol arno".

Yn ôl ffynonellau, cafodd y sylwadau eu gwneud mewn cyfarfod brys o Aelodau Senedd Llafur ddydd Gwener.

Cafodd y cyfarfod ei drefnu yn sgil penderfyniad Plaid Cymru i ddod â'r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ben.

Dywedodd ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru nad oedd Mr Gething wedi gwneud sylwadau o'r fath ei hun.

'Cael ei ddal i safon uwch nag eraill'

Mr Gething yw’r person du cyntaf i arwain llywodraeth yn Ewrop, ond mae wedi bod dan bwysau ar ôl derbyn arian ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol ddwywaith.

Ddydd Sadwrn, fe ddywedodd un ffynhonnell Llafur wrth BBC Cymru fod “Vaughan Gething a'i gefnogwyr wedi dadlau bod yr ymosodiadau yn ei erbyn yn cael eu gyrru gan gymhellion hiliol a'i fod yn cael ei ddal i safon uwch nag eraill".

"Mae ei gefnogwyr yn parhau'n ffyddlon ond mae'r grŵp yn dal yn rhanedig," meddai.

Ond, mae unigolyn o fewn y llywodraeth wedi gwrthod yr awgrym fod Mr Gething wedi gwneud y fath sylwadau yn llwyr, gan ddweud mai aelodau eraill o'r grŵp oedd yn gyfrifol.

Cafodd y cyfarfod brys rhithiol ei drefnu mewn ymateb i gyhoeddiad Plaid Cymru ynglŷn â'r cytundeb cydweithio.

Roedd y cytundeb hwnnw yn golygu bod Plaid yn helpu'r llywodraeth Lafur - sydd ag union hanner y seddi yn y Senedd - i sicrhau bod mesurau pwysig yn cael eu cymeradwyo.

Ond ddydd Gwener, fe ddywedodd eu harweinydd, Rhun ap Iorwerth, bod ei blaid wedi gwneud y penderfyniad am eu bod yn "bryderus iawn" am yr arian a roddwyd i ymgyrch Mr Gething gan gwmni Dauson Environmental Group.

Nododd Mr ap Iorwerth hefyd fod ganddo bryderon ynglŷn â’r penderfyniad i ddiswyddo aelod o'r llywodraeth ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Vaughan Gething yn arweinydd Llafur Cymru ym mis Mawrth

Dywedodd ffynhonnell arall wrth BBC Cymru: "Fel arweinydd du mae ganddo lawer mwy i'w brofi na phe bai'n arweinydd gwyn.

"Er enghraifft, edrychwch ar Mark Drakeford yn colli ei dymer gydag Andrew RT Davies.

"Pe bai Vaughan Gething wedi gwneud hynny byddai wedi cael ei weld fel dyn du crac".

Wedi'r cyfarfod nos Wener, dywedodd Mick Antoniw - sy'n aelod o gabinet Vaughan Gething - fod yna "undod llwyr" yng ngrŵp y Senedd o ran y gefnogaeth i'r prif weinidog.

Ychwanegodd eu bod yn "hyderus y bydd pob un yn sefyll y tu ôl i'r Prif Weinidog mewn pleidlais o ddiffyg hyder".

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi awgrymu ei bod yn "debygol" y bydd y gwrthbleidiau yn cyflwyno pleidlais o'r fath i geisio gorfodi ymddiswyddiad y Prif Weinidog.

'Dim byd i'w wneud â hil'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Does gan hyn ddim byd i'w wneud â hil, lliw croen, ffydd, rhywedd na rhywioldeb.

"Mae hyn yn ymwneud â methiant y Prif Weinidog wrth ateb cwestiynau syml am faterion sylfaenol."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru nad oes ganddyn nhw "unrhyw beth i'w ychwanegu i'r datganiad oedd yn egluro'r penderfyniad i ddod â'r cytundeb cydweithio i ben".