Galwad ffôn 'cyntaf o'i math' o ben mynydd yng Nghymru

Gallai ardaloedd sydd heb unrhyw signal ffôn ar hyn o bryd elwa, yn ôl Vodafone
- Cyhoeddwyd
Mae Vodafone wedi creu galwad fideo wedi ei weithredu trwy loeren - yr hyn maen nhw'n ei alw'r cyntaf o'i math i ffonau clyfar.
Gallai'r datblygiad gael gwared ag ardaloedd sydd heb unrhyw signal ffôn, yn ôl rheolwr y cwmni.
Dywedodd y cwmni fod yr alwad wedi cael ei gwneud o fynydd yng Ngheredigion.
Mae Vodafone yn bwriadu ychwanegu cysylltiadau lloeren i'w rhwydwaith ffonau yn y Deyrnas Unedig erbyn diwedd y flwyddyn, ac ar draws Ewrop erbyn 2026.
Ond mae angen pasio rhwystrau rheoleiddio yn gyntaf, meddai arbenigwyr, a lansio nifer o loerennau ychwanegol er mwyn i'r gwasanaeth gael ei weithredu.
Rhybuddia seryddwyr bod nifer y lloerenni sydd yn y gofod, nifer sy'n cynyddu, yn ei gwneud hi'n anoddach i astudio'r gofod.
Sut mae'n gweithio?
Mae cysylltiad lloeren yn galluogi ffonau arferol i weithio gyda chysylltiad we lawn, pan nad oes signal fel arall.
Eisoes, mae gan nifer o ddyfeisiadau Android a ffonau iPhone wasanaeth cysylltiad lloeren mewn argyfwng, ond ar hyn o bryd ar gyfer negeseuon testun mae'n bennaf.
Dywed Vodafone fod gwneud yr alwad fideo mewn ardal di-signal yn gam ymhellach.
"Mae'n foment bwysig iawn oherwydd ein bod ni'n agor y drws i gysylltiad byd-eang, i gysylltu pobl y DU, lle bynnag y maen nhw," meddai Margherita Della Valle, a oedd yn rhan o'r alwad.
Dywedodd hi na fyddai'r lloerenni yn cymryd lle'r mastiau a thyrrau presennol, ond yn ychwanegu haen ychwanegol o signal.
Bydd defnyddwyr ffonau ddim angen unrhyw offer ychwanegol, meddai'r cwmni, wrth iddyn nhw ehangu'r gwasanaeth.
Dydyn nhw ddim yn gwybod eto beth fydd y gost i ddefnyddwyr.
Oes lle yn y gofod?
Ond beirniadu'r posibilrwydd o gael mwy o loerenni Daear isel mae seryddwyr.
Dywedodd y Ganolfan IAU er Gwarchod yr Awyr Dywyll wrth y BBC fod y "gymuned seryddwyr rhyngwladol yn poeni am y nifer cynyddol o loerenni orbit Daear isel".
"Maen nhw'n medru difetha lluniau seryddol trwy adael rhediadau o olau."
Mae eraill hefyd wedi mynegi eu pryderon gyda Dr Megan Argo, astroffisegydd, yn dweud bod y cynnydd mewn lloerennau yn ei "gwneud hi'n gynyddol anodd i astudio'r bydysawd tu allan i'n hatmosffer".
Un canlyniad i hyn ydy bod sylwi ar asteroidau yn anoddach, meddai Dr Argo, sy'n bwysig er mwyn cadw'r Ddaear yn ddiogel.

Mae "digon o le" yn y gofod i fwy o loerennau, yn ôl y gofodwr Tim Peake
Ond mae'r gofodwr Tim Peak, wnaeth ymuno hefo Vodafone yn yr alwad fideo, yn dweud bod "digon o le" yn y gofod i fwy o loerennau.
"Yr hyn sydd angen i ni ystyried yn y dyfodol, gyda'r gofod yn dod mor ddefnyddiol i ni, ydy sut ydym yn rheoli a rheoleiddio'r swm o loerennau sy'n mynd i fyny yno.
"Sut ydym yn eu cael yn ôl i'r ddaear yn saff neu'n eu cymryd i ffwrdd o'r Ddaear, a sut ydyn ni'n gwarchod amgylchedd y gofod tra'n ei ddefnyddio er budd pawb 'nôl ar y Ddaear."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Ionawr
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2024