Rhybudd am law trwm i'r de wedi stormydd dydd Sul

Rhybudd stormFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd melyn mewn grym ar gyfer 14 o siroedd

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd am law trwm mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o dde Cymru ddydd Llun.

Mae'r rhybudd melyn mewn grym ar gyfer 14 o siroedd rhwng 08:00 a hanner nos.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai hyd at 30mm o law ddisgyn ar draws ardal y rhybudd, ac y gallai hyd at 50mm ddisgyn dros rai bryniau.

Daw wedi i stormydd daro rhannau o Gymru ddydd Sul, pan oedd rhybudd melyn arall mewn grym rhwng 13:00 a 23:00.

Disgrifiad,

Y glaw yn Llanuwchllyn brynhawn Sul

Pynciau Cysylltiedig